Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Talu am Wahanol Anfonebau Anawsterau Talu'r Awdurdod (Gwahanol Anfonebau)

Anawsterau Talu'r Awdurdod (Gwahanol Anfonebau)


Summary (optional)
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn cynnwys: beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu'r Awdurdod. A beth i'w wneud os cewch Wŷs Llys Sirol.
start content

Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu?

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Adran incwm cyn gynted â phosibl gan y gallai methu a thalu olygu camau adfer trwy'r llys sirol, neu Asiant Casglu yn galw heibio eich cartref neu eich gwaith. Efallai bydd yn bosibl talu mewn rhandaliadau; bydd angen i chi gysylltu â'r Adain Incwm i gytuno ar gynllun talu rhesymol (mae ein manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon).

Beth os ydw i'n cael Gwŷs Llys Sirol?

Os ydych dal heb dalu eich bil ar ôl cael nodyn atgoffa a rhybudd terfynol, byddwch yn cael gwŷs oddi wrth y Llys Sirol. Er mwyn osgoi cael dyfarniad llys sirol a fydd yn effeithio ar eich graddfa gredyd: mae'n rhaid i chi dalu'r swm a ddangosir ar y wŷs ar unwaith.

Os nad ydych yn gallu talu'r swm cyfan a'ch bod yn dymuno cynnig rhandaliadau, dylech lenwi'r ffurflen gyfaddefiad sydd yn sownd i'r gŵys. Ni fydd hyn yn atal dyfarniad llys sirol yn eich erbyn, ond bydd yn atal cyfarwyddo camau gorfodaeth fel y beili.

Os ydych wir yn credu nad oes arnoch unrhyw arian, dylech lenwi'r ffurflen amddiffyniad sydd yn sownd i'r gŵys a'i dychwelyd i'r llys cyn gynted â phosibl. Yna bydd angen i chi fynychu'r llys i nodi eich achos wrth y barnwr, a fydd wedyn yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau a gyflwynwyd iddo.

Cysylltwch â ni

Ffôn:  (01492) 576610
E-bost:  mananfonebau@conwy.gov.uk 
URL cyflym:  www.conwy.gov.uk/mananfonebau

PO Box 1,
Conwy,
LL30 9GN


Oriau Agor:

  • Llun - Iau:  9am - 5pm
  • Gwener:  9am - 4:45pm
end content