Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwaith dymchwel


Summary (optional)
Yn ôl Deddf Rheoli Adeiladu 1984 rhaid rhoi gwybod yn ysgrifenedig i'r Awdurdod Lleol am unrhyw waith dymchwel y bwriedir ei wneud i'r adeilad neu ran ohono. Mae'n drosedd dechrau unrhyw waith dymchwel heb roi hysbysiad o chwe wythnos cyn dechrau dymchwel.
start content

Bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad ffurfiol ynghylch a yw’r cyngor yn dymuno cymeradwyo’r manylion hyn cyn i chi ddechrau ar y gwaith dymchwel. Fe elwir hyn yn “gais cymeradwyaeth ymlaen llaw”. Cysylltwch â ni ac fe eglurwn ni’r broses.

Os yw’r Adeilad mewn Ardal Gadwraeth

Os yw'r adeilad mewn ardal gadwraeth neu'n adeilad rhestredig yna bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig hefyd. Mae'n drosedd gwneud unrhyw waith addasu neu ddymchwel i adeilad rhestredig heb y caniatâd y cyfeiriwyd ato (Rhagor o wybodaeth am ardaloedd cadwraeth).

Hefyd rhaid i'r perchennog neu'r contractwr dymchwel sicrhau bod y partïon canlynol yn cael copi o'r hysbysiad a gyflwynir i'r Cyngor.

  • Perchnogion unrhyw adeilad sydd wrth ymyl yr adeilad sy'n cael ei ddymchwel
  • Awdurdod Nwy
  • Awdurdod Dŵr
  • Awdurdod Trydan

Adran 80 Rhybudd Dymchwel

end content