Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru, gan gryfhau ein hymrwymiad i greu a chynnal lleoedd iach, cynaliadwy a dymunol i bobl fyw, gweithio ac ymweld.
Mae Creu Lleoedd yn ymwneud â meddwl yn ofalus am sut mae ein trefi, pentrefi, strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus yn cael eu dylunio, eu rheoli a’u gwella i fodloni anghenion ein cymunedau nawr ac i’r dyfodol. Mae’n ymwneud â chreu lleoedd sy’n cefnogi lles pobl, busnesau lleol, yr amgylchedd a bywyd cymunedol.
Mae’r Siarter yn amlinellu chwe egwyddor sy’n helpu sefydliadau i greu lleoedd o ansawdd uchel:
- Pobl a chymuned: blaenoriaethu anghenion lleol, dyheadau ac iechyd a diogelwch.
- Lleoliad: gwneud y defnydd gorau o dir a chryfhau cymunedau presennol.
- Symud: blaenoriaethu cerdded, seiclo a chludiant cyhoeddus.
- Defnyddiau cymysg: darparu mynediad at gartrefi, swyddi, gwasanaethau a chyflesuterau.
- Parth cyhoeddus: creu lleoedd cyhoeddus croesawgar, diogel a chynhwysol.
- Hunaniaeth: parchu a gwella cymeriad unigryw lleoedd.
Mae’r egwyddorion hyn yn cefnogi ein cyfrifoldebau ehangach dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’n helpu i ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau.
Dysgwch fwy am Siarter Creu Lleoedd Cymru ar wefan Comisiwn Dylunio Cymru.