start content

Byddwn yn cael manylion eich cerdyn credyd gan ddefnyddio gweinydd diogel. Mae hyn yn golygu bod y trafodion yn cael eu hamgryptio rhwng eich peiriant a gweinydd yr awdurdod.

Mae cyfeiriadau gwefannau traddodiadol yn dechrau efo "http" - bydd cyfeiriad ar gyfer safle diogel bob amser yn dechrau efo "https".

Pan fydd manylion eich cerdyn credyd / debyd wedi cael ei gyflwyno i ni, a bod cwmni'r cerdyn credyd / debyd wedi cymeradwyo'r taliad, bydd yn cael ei brosesu.

Yn ogystal â hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llwyddo i gydymffurfio â Safonau Diogelu Data y Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS) yn flynyddol ers mis Medi 2011.

end content