Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llyfrynnau Ymgynghori


Summary (optional)
Fersiynau ar-lein o'r llyfrynnau ymgynghori amrywiol sy'n cael eu defnyddio yng ngwasanaethau Plant a Theuluoedd.
start content

Mae'r dudalen hon yn rhestru nifer o lyfrynnau ymgynghori y gallech gael gwahoddiad i'w llenwi ynglŷn â gwasanaeth y gallech fod yn ei dderbyn. Cliciwch ar y llyfryn rydych ei angen, a bydd y ffurflen we yn agor. Ar ôl i chi glicio "cyflwyno" ar y diwedd, bydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon at ein staff.

Os ydych yn profi unrhyw broblem wrth ddefnyddio unrhyw ffurflen, dywedwch wrthym drwy ddefnyddio'r adran ‘Gwerthuso'r dudalen’ ar waelod y dudalen hon.

  • Derbyn Gofal - Dweud Eich Dweud  - Adolygiad Statudol (fersiwn hŷn) - Mae’n rhaid cynnal adolygiad statudol yng Nghonwy i edrych ar y cynlluniau ar gyfer pob unigolyn ifanc sy’n derbyn gofal. Mae’r cyfarfod yn edrych ar y lle rydych yn byw ac os mai dyna’r man cywir i chi fod.
  • Derbyn Gofal – Dweud Eich Dweud - Adolygiadau (fersiwn iau) - Adolygiadau yw eich cyfarfod i ddweud wrth bawb sut rydych yn teimlo am y man rydych yn byw a’r cynllun ar gyfer eich bywyd chi.
  • Ymgynghoriad ar gyfer Gofalwyr Seibiant Byr - Mae'r cwestiynau canlynol wedi'u llunio er mwyn i chi gael rhoi sylwadau am unrhyw faterion mewn perthynas â'r lleoliad seibiant byr yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer y plentyn. Gall hyn gynnwys y gefnogaeth yr ydych chi neu’r plentyn yn ei derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Ymgynghori Ar Gyfer Gofalwyr Maeth - Mae’r cwestiynau canlynol i ofalwyr maeth roi eu barn ar leoliad a chynllun y plentyn, i baratoi ar gyfer yr adolygiad plentyn.
  • Fy Adolygiad Pathway - Mae eich adolygiad Pathway yng Nghonwy yn gyfarfod sy’n rhaid ei gynnal i edrych ar y cynlluniau i bob unigolyn 16+ sydd â chynllun Pathway.
  • Llyfryn Ymgynghori Cyffredinol i Rieni - Bydd y cwestiynau canlynol yn eich helpu i baratoi ar gyfer adolygiad statudol eich plentyn/unigolyn ifanc. Yr adolygiad statudol yw cyfarfod gyda’r plentyn/unigolyn ifanc i edrych ar y rhesymau pam y maent yn derbyn gofal a darganfod a yw’r cynllun yn diwallu eu hanghenion.
end content