Canolfan Deulu'r Gogledd: Eryl Wen, Eryl Place, Llandudno, LL30 2TX
Cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Teuluoedd: Gogledd
E-bost: teuluoedd.gogledd@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574732
Beth sydd ar gael
- Grwpiau, sesiynau chwarae a gweithgareddau i'r teulu cyfan
- Gwybodaeth a chyngor
- Cyrsiau ar wneud y gorau o fywyd teuluol
- Cefnogaeth gan Weithiwr Teuluol
- Mynediad at gefnogaeth gan bobl eraill (er enghraifft cyngor ar fudd-daliadau, Cam-drin Domestig, Gwasanaeth Awtistiaeth, Gweithiwr Ieuenctid, cwnsela, ymwelwyr iechyd, a llawer mwy)
- Mae croeso i chi alw heibio, mae paned ar gael bob amser a wyneb cyfeillgar
Mae’r gweithgareddau yma ymlaen hefyd:
content
11am tan 2pm: Diwrnod o Hwyl i'r Teulu
13 Awst, Eryl Wen, Llandudno. Sw anifeiliaid anwes, paentio wynebau, a nifer o weithgareddau difyr i'r teulu. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492 574732.
3:30pm tan 4:30pm: Sesiwn Chwarae Synhwyraidd
Sesiwn chwarae ryngweithiol yn canolbwyntio ar brofiadau synhwyraidd. Eryl Wen, Llandudno. Dydd Llun 23 Gorffennaf, 30 Gorffennaf, 6 Awst, 20 Awst, 27 Awst.
Os hoffech ei dderbyn mewn fformat gwahanol, neu gopi papur, cysylltwch â'r tîm.