Mae Conwy’n ymrwymo i gefnogi teuluoedd i sicrhau fod plant bach yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.
Beth yw manteision Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed?
Mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed yn cynnig lle diogel, gofalgar a hwyliog i blant ddysgu, datblygu a ffynnu. Mae ein darparwyr gofal plant yn meddu ar y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol ac yn rhoi lles eich plentyn wrth wraidd popeth y maent yn ei wneud.
Nid yw gofal plant yn orfodol, ond pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio, gwyddom eich bod eisiau’r ddarpariaeth orau bosib i’ch teulu chi.
Bydd plant yn cael cyfle i:
- Ddysgu sgiliau newydd
- Magu hyder
- Teimlo’n ddiogel a hapus
- Ymchwilio i’w diddordebau
- Dod yn fwy annibynnol
- Gwneud ffrindiau
- Mwynhau gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored
Mae plant cymwys yn gallu cael hyd at 12½ awr o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod y tymor.
Darperir y gofal fel hyn gan amlaf:
- 2½ awr y diwrnod
- Dydd Llun i ddydd Gwener
- Yn ystod y tymor yn unig
Pwy all gael Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed?
Mae plant yn gymwys i ddechrau cael y gofal hwn yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed hyd at y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed, a hynny mewn lleoliad gofal plant a gymeradwywyd yng Nghonwy.
I fod yn gymwys rhaid i’ch plentyn fod yn byw yn Sir Conwy, rhaid i hyn fod:
- yn brif gyfeiriad cartref y plentyn
- y cyfeiriad y telir eu budd-dal plant iddo (os ydynt yn gymwys)
- y cyfeiriad a gofrestrwyd gydag ymwelydd iechyd y plentyn.
Ble mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed ar gael?
Mae’r gofal plant a ariennir ar gael ym mhob rhan o Sir Conwy.
Dim ond lleoedd mewn lleoliadau gofal plant sydd wedi’u cymeradwyo y gellir eu hariannu. Mae’r lleoliadau hynny wedi bodloni safonau ansawdd a chael sêl bendith Dechrau’n Deg Conwy.
Ymysg y lleoliadau sydd wedi'u cymeradwyo mae:
- Cylchoedd Chwarae
- Cylchoedd Meithrin
- Meithrinfeydd Dydd
- Gwarchodwyr Plant.
Mae hynny’n cynnwys darparwyr gofal plant Cymraeg, Saesneg a dwyieithog.
content
Mochdre, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llysfaen, Llanddulas, Betws-yn-Rhos
Cylchoedd Chwarae
- Cylch Chwarae Cadwgan
- Cyn Ysgol Cynfran
- Cylch Chwarae Llanddulas
- Cylch Chwarae Mochdre
- Cylch Chwarae Nant y Groes
- Cylch Chwarae Rhos
- Cylch Chwarae St Joseph
- Cylch Chwarae Sŵn y Don
Cylchoedd Meithrin
- Cylch Meithrin Bod Alaw
- Cylch Meithrin Betws-yn-Rhos
Meithrinfeydd Dydd
- Cyn Ysgol Princess Road
- Kids Planet ym Meithrinfa Ddydd Ashbourne House
- Kids Planet ym Meithrinfa Ddydd West End
- Meithrinfa Ddydd First Steps
- Cyn Ysgol Rydal Penrhos
Gwarchodwyr Plant
- Antonia Bailey (gwarchodwr plant)
- Apple Tree Tots Childminding
- Curious Bugs Childminding
- Lizzie Day (gwarchodwr plant)
- Gofal Plant ABC Childcare
- Joanne Vaughan (gwarchodwr plant)
- Sharon Caddick (gwarchodwr plant)
content
Llandudno, Bae Penrhyn
Cylchoedd Chwarae
- Cylch Chwarae’r Bendigaid William Davies
- Cylch Chwarae Craig y Don
- Meithrinfa Lôn yr Ysgol
- Cyn Ysgol Seren Super Stars
- Cylch Chwarae Tudno
Cylchoedd Meithrin
- Cylch Meithrin Morfa Rhianedd
Meithrinfeydd Dydd
- Meithrinfa Ddydd Chwarae Teg, Bae Penrhyn
- Meithrinfa a Chyn Ysgol Llandudno
- Meithrinfa Ddydd Little Angels
- Kids Planet ym Meithrinfa Ddydd Llandudno
Gwarchodwyr Plant
content
Abergele, Bae Cinmel, Towyn, Llanfairtalhaiarn, Llannefydd, Llansannan
Cylchoedd Chwarae
- Clwb Enfys yng Nghylch Chwarae Glan Gele
Cylchoedd Meithrin
- Cylch Meithrin Abergele
- Cylch Meithrin Talhaiarn
Meithrinfeydd Dydd
- Meithrinfa Ddydd Chwarae Teg, Pensarn
- Meithrinfa Ddydd Jumping Jacks
- Meithrinfa Ddydd Little Lambs
- Meithrinfa Ddydd Little Lambs Awel y Mor
- Kids Planet ym Meithrinfa Ddydd Abergele
Gwarchodwyr Plant
content
Deganwy, Cyffordd Llandudno, Conwy, Glan Conwy, Dwygyfylchi, Penmaenmawr, Llanfairfechan
Cylchoedd Chwarae
- Cylch Chwarae Deganwy
- Cylch Chwarae Cyffordd Llandudno
- Cylch Chwarae Llanfairfechan
- Cylch Chwarae Sant Gwynan
- Ysgol Feithrin Conwy (Porth y Felin)
- Ysgol Feithrin Glan Conwy
Cylchoedd Meithrin
- Cylch Meithrin Awel y Mynydd
- Cylch Meithrin Penmaenmawr
- Cylch Meithrin Llangelynnin
Meithrinfeydd Dydd
- Meithrinfa Derwen Deg
- Kids Planet ym Meithrinfa Ddydd Conwy
Gwarchodwyr Plant
- Little Darlings Childminding
- Treetots Childminding
content
Caerhun, Eglwysbach, Llangernyw, Llanddoged, Maenan, Dolgarrog, Trefriw, Llanrwst, Capel Curig, Betws-y-coed, Capel Garmon, Dolwyddelan, Bro Machno, Ysbyty Ifan, Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel, Llangwm
Cylchoedd Meithrin
- Cylch Meithrin Bro Cernyw
Meithrinfeydd Dydd
- Meithrinfa Traed Bach
- Meithrinfa Twt Lol
Gwarchodwyr Plant
- Gwarchod Plant Angylion Bach
- Gwarchod Plant Twts Crwst
- Gwarchod Plant Cwm Machno
Os nad yw eich darparwr gofal plant presennol yn y rhestr o leoliadau sydd wedi'u cymeradwyo, ni allwn ariannu gofal plant yno ar hyn o bryd.
Gallwch siarad â’ch darparwr gofal plant yngln â dod yn lleoliad wedi’i gymeradwyo.
Sut i wneud cais?
Mae’r dyddiad y bydd eich plentyn yn dechrau’n dibynnu ar eu dyddiad geni.
| Os ganwyd eich plentyn rhwng | Bydd eich plentyn yn gymwys i gael Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed yn ystod yr adegau canlynol |
| 1 Medi tan 31 Rhagfyr |
Tymhorau’r Gwanwyn, Haf a Hydref ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 2 oed |
| 1 Ionawr tan 31 Mawrth |
Tymhorau’r Haf, Hydref a Gwanwyn ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 2 oed |
| 1 Ebrill tan 31 Awst |
Tymhorau’r Hydref, Gwanwyn a Haf ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 2 oed |
Os oes gan eich plentyn ddyddiad geni cymwys ac mae'n byw yn Sir Conwy, bydd angen i chi lenwi ffurflenni cofrestru.
I wneud hynny, dewch i un o sesiynau galw heibio Gofal Plant:
| Lleoliad | Diwrnodau | Amseroedd |
| Canolfan Deuluoedd Ffordd Douglas, Bae Colwyn |
Dydd Llun, Mercher ac Iau (bob wythnos) |
9:00am – 11:30pm |
| Canolfan Deuluoedd Dinorben, Abergele |
Dydd Gwener (bob wythnos) |
9:00am – 11:30am |
| Canolfan Deuluoedd Eryl Wen, Llandudno |
Dydd Mawrth (bob wythnos) |
1:00pm – 2:30pm |
| Neuadd Goffa Cyffordd Llandudno |
Dydd Mawrth (bob pythefnos, ffoniwch i gael manylion) |
9:30am – 11:00am |
| Llyfrgell Penmaenmawr |
Dydd Mercher (bob pythefnos, ffoniwch i gael manylion) |
1:30pm – 2:45pm |
| Canolfan Deuluoedd Llanrwst |
Dydd Gwener (bob wythnos) |
1:00pm – 4:00pm |
Os na fedrwch ddod i un o’r sesiynau hyn, cysylltwch â ni i drefnu amser arall i lenwi ffurflenni cofrestru Dechrau’n Deg.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl prosesu’ch cais, bydd Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg Conwy’n anfon neges e-bost neu lythyr i gadarnhau.
Ni all y gofal plant wedi’i ariannu ddechrau nes y byddwch chi wedi cael y cadarnhad hwnnw.
Bydd y cadarnhad yn cynnwys:
- dyddiad dechrau ariannu gofal eich plentyn
- yr oriau y cytunwyd eu hariannu
- y lleoliad gofal plant y trefnwyd lle i’ch plentyn ynddo
Atebion i Gwestiynau Cyffredin
Faint o oriau wedi’u hariannu a fedr fy mhlentyn eu cael?
Gall plant cymwys gael hyd at 12½ awr yr wythnos, fel arfer 2½ awr y diwrnod, o dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.
Efallai y bydd y trefniadau’n amrywio mewn gwahanol leoliadau gofal plant.
Pa leoliadau gofal plant all dderbyn cyllid Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed?
Dim ond lleoedd mewn lleoliadau gofal plant sydd wedi’u cymeradwyo y gellir eu hariannu.
Mae rhestr o’r holl leoliadau sydd wedi’u cymeradwyo i’w gweld uchod.
Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn yn mynychu mwy nag un lleoliad?
Dim ond i un lleoliad gofal plant y gellir talu cyllid Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru i Blant 2 Oed.
Wrth wneud cais, dewiswch y lleoliad yr hoffech chi i'ch plentyn ei fynychu gyda’r cyllid.
Alla'i newid yr oriau a ariennir?
Os hoffech chi newid yr oriau a ariennir, newid y lleoliad gofal plant neu ddod â lle i ben yn gynnar, bydd angen i chi drafod hynny gyda’ch darparwr gofal plant, a rhaid i dîm gofal plant Dechrau'n Deg Conwy gytuno i hyn. Gellir newid oriau neu leoliadau ar gyfer yr hanner tymor sy’n dilyn – nid oes modd gwneud newidiadau yn ystod yr hanner tymor cyfredol.
A fydd hyn yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Efallai y bydd angen ichi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n derbyn budd-dal ar gyfer gofal plant, gan gynnwys Credyd Cynhwysol.
Hysbysiad Preifatrwydd
Os ydych yn cael gwasanaethau gan Ddechrau’n Deg, bydd rhywfaint o’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae mwy o wybodaeth am sut mae eich data’n cael ei ddefnyddio a’i gadw yn hysbysiad preifatrwydd Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru. Gallwch hefyd weld hysbysiad preifatrwydd Conwy mewn fformat Hawdd ei Ddeall.
Angen Mwy o Wybodaeth?
Gofal Plant Dechrau’n Deg Conwy
Ebost: dd-gofalplant@conwy.gov.uk
Ffon: 01492 575453 / 01492 575784
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy
Ebost: plant.children@conwy.gov.uk
Ffon: 01492 577850

