Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dechrau'n Deg Conwy


Summary (optional)
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi gwell cyfle mewn bywyd i blant o dan 4 oed.
start content

Gwyddom fod blynyddoedd cynnar y plentyn yn bwysig ac yn effeithio ar eu datblygiad. Nod y cynllun yw rhoi cymorth dwys i blant dan 4 oed a'u teuluoedd.

Nod y rhaglen yw canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau, gan gynnwys iaith, datblygiad cymdeithasol, corfforol ac emosiynol a chymorth ychwanegol lle bo angen.

Rydym yn gwneud hyn gydag ymweliadau iechyd dwys, grwpiau rhianta, gweithgareddau chwarae a gofal plant rhan-amser wedi ei ariannu. Byddwch fel arfer yn cael gwybodaeth gan eich Ymwelydd Iechyd os ydych wedi cofrestru gyda meddygon a’ch bod mewn ardal Dechrau'n Deg.

Cysylltwch a’ch Tîm Cefnogi Teulu lleol am ragor o wybodaeth am gefnogaeth ar gael i deuluoedd yng Nghonwy.

Cysylltiadau

Ymholiadau Cyffredinol

Gofal Plant Dechrau’n Deg

Tîm Iechyd Dechrau’n Deg

  • Ardal Canolog (Bae Colwyn, Hen Golwyn, Mochdre, Betws yn Rhos, Llanddulas, Llysfaen)
  • Ffôn: 03000 854444

  • Ardal Gogledd (Llandudno, Bae Penrhyn)
  • Ffôn: 01492 574583
end content