Os yw amddifadu o ryddid yn bodoli, nid yw o reidrwydd yn golygu fod rhywbeth o’i le gyda gofal yr unigolyn neu gyda ble maent yn byw. Nid yw’n golygu o reidrwydd bod angen newid y cyfyngiadau y mae rhywun yn byw â nhw. Dylai’r cyfyngiadau hyn fod ar waith i ddiogelu’r unigolyn rhag niwed. Dylent fod yn gymesur â’r risg a gyflwynir, y dewis lleiaf cyfyngol ac er budd pennaf yr unigolyn.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, mewn llety byw â chymorth a rhannu bywydau. Nid ydynt yn berthnasol i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ac ysbytai sydd â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar waith. I gael gwybodaeth am y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, ewch i’r dudalen wybodaeth am Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
Beth yw Rhyddid?
Mae’r hawl i ryddid yn galluogi pawb i gael rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ble i fyw a sut. Amddiffynnir ein hawl i ryddid yn Erthygl 5 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Beth yw Amddifadu o Ryddid?
Mae Amddifadu o Ryddid yn y cyd-destun hwn yn digwydd pan gyfyngir ar ryddid unigolyn oherwydd:
- Maent mewn perygl o niwed
- Mae ganddynt ystod o gyfyngiadau i’w hamddiffyn a allai gynnwys
- goruchwyliaeth gan eraill.
- peidio â bod yn rhydd i adael
- Nid oes ganddynt y galluedd meddyliol i gydsynio.
- A bod yr Awdurdod Lleol neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwybod am y peth
Nid oes un prawf i benderfynu os yw unigolyn wedi’i amddifadu o’i ryddid. Rhaid ystyried bob sefyllfa yn unigol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol. Gallai’r rhain gynnwys:
- y math o gyfyngiadau (er enghraifft, cloi drysau, rheolaeth gorfforol, goruchwyliaeth, meddyginiaeth llonyddu, arwahanrwydd cymdeithasol ac yn y blaen)
- yr hyd
- yr effeithiau ar yr unigolyn
- y dull o weithredu
- os yw’r unigolyn yn gwrthwynebu ai peidio
- normalrwydd perthnasol y trefniadau
- pwrpas y trefniadau
Enghreifftiau o gyfyngiadau posib:
- Bod o dan oruchwyliaeth; gall hyn olygu synwyryddion.
- Peidio â gallu gadael man cymunedol yn barhaol neu gael eu cymryd yn ôl petaent yn ceisio gadael.
- Offer sy’n atal rhywun rhag symud neu gael mynediad, fel drysau wedi’u cloi, rheiliau ar y gwely a gwregys glin mewn cadair olwyn, er enghraifft.
- Aelod o staff yn hebrwng rhywun allan yn y gymuned.
- Arfer dulliau ymyrryd corfforol.
- Meddyginiaeth gudd neu feddyginiaethau llonyddol a gwrth-seicotig.
- Cyrffyw.
Efallai y bydd cyfyngiadau eraill ar waith yn ôl anghenion yr unigolyn.
Er mwyn i achos o amddifadu o ryddid godi, rhaid cael elfen o osod cyfyngiadau ar rywun yn erbyn eu hewyllys. Os yw unigolyn yn cael eu cyfyngu gan eu salwch neu eu hanabledd eu hunain, yn hytrach nag eraill, mae’n annhebygol o gyfrif fel amddifadu o ryddid.
Ar 2 Mehefin, 2026, bu i’r Goruchaf Lys gyhoeddi dyfarniad sy’n newid beth yw amddifadu o ryddid o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005).Mae’r newidiadau hyn yn weithredol yn syth ac yn ymestyn ledled y DU. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo gyda goblygiadau’r dyfarniad hwn.
Os hoffech gael gwybod mwy am y ddeddfwriaeth berthnasol a’r ffordd y’i gweithredir, bydd y dolenni hyn yn ddefnyddiol:
Beth yw Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol?
Mae hyn yn berthnasol i rywun sy’n byw:
- Mewn cynllun byw â chymorth
- Mewn llety Rhannu Bywydau
- Yn eu cartref eu hunain – lle darperir cefnogaeth gan y teulu neu ddarparwr gofal, neu’r ddau (gan gynnwys drwy Daliadau Uniongyrchol)
NID yw’n berthnasol i gartrefi gofal neu ysbytai.
Os na all unigolyn 16 oed a hŷn benderfynu ynglŷn â’u gofal a ble maent yn byw, ac ni allant roi caniatâd dilys i’r cyfyngiadau, rhaid i’r trefniadau hyn gael eu hawdurdodi gan y Llys Gwarchod i amddiffyn eu hawliau. Ni chaiff rhiant neu rywun dros 16, Atwrnai na Dirprwy iechyd a lles roi awdurdod ar ran yr unigolyn i’w hamddifadu o’u rhyddid.
Beth yw’r Llys Gwarchod?
Mae’r Llys Gwarchod yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â phobl sydd heb alluedd i wneud penderfyniadau dros eu hunain. Ymhob achos, nod y Llys yw amddiffyn hawliau a rhyddid yr unigolyn gymaint â phosibl.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Llys Gwarchod.
Beth yw Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol?
Gorchymyn a roddir gan y Llys Gwarchod yn awdurdodi amddifadu o ryddid yn y gymuned. Gall hefyd gael ei alw yn orchymyn ‘AoR Cymunedol’. Ni all unigolyn gael eu hamddifadu o’u rhyddid heb y fframwaith cyfreithiol perthnasol ac awdurdodiad gan y Llys.
Dilynwch y dolenni isod i gael cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim am arferion cyfyngol, a’r hyfforddiant ac offer a fedr helpu wrth ystyried arfer dulliau eraill llai cyfyngol:
I gael gwybod mwy, cymerwch gip ar ein Canllaw Hawdd ei Ddarllen ynglŷn â Gorchmynion Amddifadu o Ryddid Cymunedol.
Sut mae Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn amddiffyn yr hawl i ryddid?
Mae’r Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol yn sicrhau:
- Y gofynnir i’r unigolyn am eu teimladau ynglŷn â ble maent yn byw a sut.
- Bod gan yr unigolyn eiriolwr, os oes angen, i’w cefnogi i gael lleisio eu barn.
- Y gofynnir i bawb sy’n cyfrannu at ofalu am yr unigolyn am eu barn ynglŷn â’r trefniadau.
- Bod yr unigolyn yn byw mewn lle addas sy’n bodloni ei anghenion.
- Bod gan yr unigolyn neu rywun sy’n ymwneud â’u gofal yr hawl i apelio os byddant yn anghytuno â’r trefniadau.
- Bod y trefniadau’n gyfreithiol, yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Nid yw awdurdodiad yn eu hatal rhag symud yn y dyfodol os penderfynir mai hynny sydd orau iddynt os bydd eu hanghenion yn newid. I gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd ar ôl cadarnhau Gorchymyn, cymerwch gip ar ein Canllaw Hawdd ei Ddarllen.
Yn ystod yr asesiad bydd yr Asesydd Lles Pennaf neu’r sawl sy’n meddu ar Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Iechyd a Lles, yn dynodi rhywun i fod yn gynrychiolydd ar ran yr unigolyn ar gyfer y Gorchymyn Amddifadu o Ryddid Cymunedol. Y Cynrychiolydd Rheol 1.2 yw hwn. Gall fod yn aelod o’r teulu, ffrind neu gynrychiolydd annibynnol. I gael gwybodaeth am y swyddogaeth hon, darllenwch ein Canllawiau ynghylch Cynrychiolwyr Rheol 1.2.
Beth ddylwn ei wneud os credaf fod rhywun ag anabledd sy’n byw yn y gymuned yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid?
Cyn gwneud dim byd arall, siaradwch â’r staff gofal neu’r gweithiwr gofal cymdeithasol dynodedig i holi a wnaed atgyfeiriad am asesiad Amddifadu o Ryddid Cymunedol. Os nad felly, ac os credwch y dylid cynnal asesiad, gofynnwch iddynt wneud atgyfeiriad.
Os oes gan yr unigolyn ofalwyr anffurfiol, fel teulu a ffrindiau, gallant hwythau wneud atgyfeiriad. Gwneir atgyfeiriadau i’r Awdurdod Lleol. Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio â’r unigolyn, llenwch y Ffurflen Gais am Asesiad.
Dylai pawb arall lenwi’r Ffurflen Gais am Asesiad i Deulu, Ffrindiau a Chymorthyddion.
Llenwch y ffurflen â chymaint o wybodaeth ag y gallwch, fel bod modd rhoi blaenoriaeth addas i’r cais yn rhestr aros y tîm. Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi i’r Gwasanaeth Anableddau drwy e-bost: gweinydduanableddau@conwy.gov.uk
Pwy fedraf eu holi am hyn?
I gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaeth Anableddau ar 01492 575374 neu gweinydduanableddau@conwy.gov.uk a gofynnwch am gael siarad gyda’r Asesydd Lles Pennaf neu’r Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig.
Mae’r gyfraith sy’n llywodraethu trefniadau colli rhyddid yn datblygu o hyd. Canllaw cyffredinol yn unig yw’r wybodaeth uchod ac ni ddylid ei hystyried yn ddatganiad diffiniol o’r gyfraith ar unrhyw gyfrif. Cysylltwch â’ch Asesydd Lles Pennaf os hoffech gael mwy o wybodaeth.
Fe gewch chi hefyd wybodaeth a chyngor annibynnol ar wefannau mudiadau gwirfoddol a sefydliadau sy’n ymdrin â chyfraith iechyd a gofal cymdeithasol, fel Mencap, Cymdeithas Alzheimer’s, Mind Cymru, Comisiwn y Gyfraith, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru, er enghraifft.