Dyddiadau
- 2026: 26ain a 27ain Ionawr
Manylion y cwrs
- Amser: 18:00 - 21:00 (rhaid mynychu’r ddau noson)
- Lleoliad: Zoom (Rhithwir)
- Hyfforddwr: Val Owen - Y Bont
- Grŵp targed: Gofalwyr Maeth
Nodau ac amcanion y cwrs
Byddwch eisoes wedi cwblhau dysgu Grŵp A.
Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu byddwch yn:
- gwybod y ddeddfwriaeth a’r polisïau perthnasol, codau ymddygiad a’r arferion proffesiynol sy’n adlewyrchu eich rôl mewn perthynas â diogelu
- gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed a thramgwydd
- gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddwch yn tystio neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin
- gallu egluro ffactorau, sefyllfaoedd a chamau gweithredu a allai arwain at neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod sut, pryd ac i bwy i adrodd am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed
I gael gwybodaeth bellach, neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb gael hysbysiad yn cadarnhau hynny, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â dod i unrhyw gwrs os nad ydych chi wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gallai'r digwyddiad fod yn llawn.