Manylion y cwrs:
    
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed | 
|---|
| 9 Hydfref 2018 | 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30am – 2:30pm
 
 | Ystafell Hyfforddiant Colwyn, Bron y Nant, Dinerth Road, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Conwy, LL28 4YN | Diversity Trust – Berkeley Wilde | Gwasanaethau Targed – Cymuned a Lles, Tîm Anableddau, Cefnogaeth ac Ymyriadau Teuluol, Plant sy’n Derbyn Gofal, Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder ieuenctid, Glan yr Afon, Gofalwyr Maeth
 Grŵp Targed – Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Gofal Preswyl Plant, Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg, Staff Cefnogi Teuluoedd, Tîm Troseddu Ieuenctid a Gweithwyr Ieuenctid.
 | 
Trosolwg:
Bydd y cwrs hwn yn codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o themâu allweddol LGBT+, gan gynnwys:
- Dod allan
- Perthnasoedd
- Teuluoedd
- Adnoddau LGBT+ fel grwpiau cymdeithasol a chefnogi
Bydd y cwrs yn cynnwys trosolwg o’r deddfwriaethau cydraddoldeb allweddol, yn archwilio’r rhwystrau a wynebir gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac yn darparu cyfle i ymgorffori themâu’r cwrs i arferion gyda Phlant a Phobl Ifanc.
9.30am Sesiwn Gynhwysiant:
- Croeso a Manylion Ymarferol
- Cytundeb Dysgu
- Gweithgaredd Bingo LGBT+
- Trosolwg o’r gyfraith, dyletswyddau a’r cyfrifoldebau
- Iaith a diffiniadau
11.15am Egwyl 
11.30am Cysylltu a chyfathrebu gyda phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill:
- Ymchwil ar brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill
- Y rhwystrau a wynebir gan blant a phobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol wrth gael gafael ar wasanaethau.
- Canllawiau arfer orau i gefnogi staff i wella profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac eraill
12.30pm Cinio
1.00pm Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsrywiol:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc drawsrywiol
- Safbwyntiau cyfreithiol, cymdeithasol, diwylliannol, meddygol a hanesyddol bod yn berson trawsrywiol
2.00pm Teulu a pherthnasoedd:
2.30pm Gwerthuso a Chloi
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.