Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Delio gyda Chyffuriau mewn Gofal Maeth


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
20 Chwefror 2019 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru
9:30am - 2:30pm
Porth Eirias, Y Promenâd, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HH Sharon Garland / Mel Everley Gwasanaethau Targed Cymorth ac   Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth
    
Grŵp Targed Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol, Staff Glan yr Afon.
   


Nodau ac amcanion y cwrs:

Trosolwg o’r cwrs

  • Mae llawer o bobl ifanc mewn gofal wedi profi amrywiaeth o anawsterau yn eu bywydau. Gall rhai fod o gartrefi a chymdogaethau lle mae defnyddio cyffuriau yn rheolaidd yn arferol. Gallai hyn yn ei dro effeithio ar eu hagweddau eu hunain at gamddefnyddio sylweddau.
  • Mae’r cwrs hwn yn darparu canllaw ymarferol i ofalwyr maeth a Gweithwyr Cymdeithasol ar dueddiadau cyffuriau presennol a sut i ddarparu cyngor a chymorth i bobl ifanc yn eu gofal.
  • Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob gofalwr maeth a staff gofal maeth sydd angen gwybodaeth ddiweddar am faterion cyffuriau ac alcohol.

Amcanion dysgu

  • Archwilio sut a pham bod tueddiadau cymryd cyffuriau yn newid.
  • Nodi sylweddau penodol ac arwyddion o’u defnydd.
  • Cael dealltwriaeth o’r effaith y mae rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau yn ei gael ar blant.
  • Egluro’r sefyllfa gyfreithiol i ofalwyr maeth o ran defnydd cyffuriau ar eu heiddo.
  • Deall y canllawiau arfer da o ran cynghori a chefnogi person ifanc a all fod yn defnyddio cyffuriau.
  • Deall lle gellir derbyn cymorth, gwybodaeth a chyngor pellach.
  • Hyd y Cwrs: 5 awr

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content