Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Effaith Camdriniaeth ac Esgeulustod ar Blant a Phobl Ifanc


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs

Mae tystiolaeth yn dangos os yw rhieni’n ymgolli eu hunain mewn problemau sy’n arwain at eithrio tasgau, perthnasoedd neu faterion eraill, mae'n debygol na fyddant ar gael ddigon i gyflawni'r dasg o fagu eu plant neu byddant yn methu â diwallu anghenion eu plant. Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio'r effeithiau andwyol y bydd hyn yn ei gael ar blant.

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
Dydd Iau 9 Mai 2024 09:30 – 16:00 Coed Pella Barbara Lyons Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon

Grŵp Targed: byddai’r cwrs hwn yn fuddiol i holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:  Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol (yn arbennig y rhai yn eu 3 blynedd cyntaf o ymarfer), Gweithwyr Ymyriad Teuluol, staff preswyl
Dydd Llun 10 Chwefror 2025 09:30 – 16:00 Coed Pella Barbara Lyons Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon

Grŵp Targed: byddai’r cwrs hwn yn fuddiol i holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:  Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol (yn arbennig y rhai yn eu 3 blynedd cyntaf o ymarfer), Gweithwyr Ymyriad Teuluol, staff preswyl


Nodau ac amcanion y cwrs

Canlyniadau Dysgu:


Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:

  • Deall ffactorau risg i rieni megis problemau alcohol neu gyffuriau, cam-drin domestig, tlodi, salwch meddwl, trawma a thai gwael, a sut y mae’r rhain yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn peryglu gallu’r rhieni i fagu eu plant
  • Ystyried y profiad hwn o safbwynt y plentyn
  • Archwilio ym mha ffyrdd yr effeithir ar y plant
  • Cael gwell dealltwriaeth o rai mathau o ymddygiad a welir mewn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu sydd wedi profi trawma.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content