Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Camddefnyddio Sylweddau gan Rieni: Yr Effaith ar Blant a Theuluoedd


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs

Gall rhai rhieni fod yn defnyddio cyffuriau a bod yn rhiant digonol ar yr un pryd. Mae’r cwrs hwn yn edrych ar asesu sut y mae’r defnydd o gyffuriau’n cyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod ac yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer gweithio’n fwy effeithiol gyda’r teuluoedd hyn.



DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
14 Gorffennaf 2020 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru
9.30am - 4.30pm
Ystafell Hyfforddi 2, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ Barbara Lyons – Shadowplay counselling Gwasanaethau Targed – Holl Sectorau

Grŵp Targed - Mae'r cwrs hwn ar gyfer ymarferwyr sy'n asesu neu'n ymyrryd gyda theuluoedd. Byddai o fudd i Weithwyr Cymdeithasol o dimoedd Plant, Oedolion Diamddiffyn, Anableddau <25, timoedd Iechyd Meddwl, yn ogystal â Gweithwyr Ymyrraeth Teuluoedd, a staff yn y Gwasanaeth Lles Cymunedol. Mae'r cwrs hwn yn ffurfio rhan o'r dair blynedd gyntaf yn yr amserlen hyfforddi ymarfer.

Sylwch: nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Gofalwyr Maeth.
11 Ionawr 2021 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru
9.30am - 4.30pm
Ystafell Hyfforddi 3, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ Barbara Lyons – Shadowplay counselling Gwasanaethau Targed – Holl Sectorau

Grŵp Targed - Mae'r cwrs hwn ar gyfer ymarferwyr sy'n asesu neu'n ymyrryd gyda theuluoedd. Byddai o fudd i Weithwyr Cymdeithasol o dimoedd Plant, Oedolion Diamddiffyn, Anableddau <25, timoedd Iechyd Meddwl, yn ogystal â Gweithwyr Ymyrraeth Teuluoedd, a staff yn y Gwasanaeth Lles Cymunedol. Mae'r cwrs hwn yn ffurfio rhan o'r dair blynedd gyntaf yn yr amserlen hyfforddi ymarfer.

Sylwch: nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer Gofalwyr Maeth.


Nodau ac amcanion y cwrs

 

Canlyniadau Dysgu:

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:

  • Deall pa gyffuriau a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin, pam fod rhieni’n eu defnyddio a’r gwahanol fathau o ddefnydd
  • Gallu asesu sut y gall pob math o gyffur beryglu’r gallu i rianta
  • Deall ym mha ffyrdd y gall hyn effeithio ar blant
  • Targedu’r ymddygiad rhianta gwael, gan osgoi’r ‘gêm cath a llygoden’ gyda rhieni nad ydyn nhw’n rhoi gwybod yn onest am eu defnydd o gyffuriau
  • Gwybod sut i leihau’r perygl a chynyddu’r gallu i amddiffyn y plant

 

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, yna cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content