Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
13 ac 14 Rhagfyr 2018 LLAWN
31 Ionawr 2019 ac 1 Chwerfor 2019 LLAWN
14 a 15 Mawrth 2019 LLAWN
|
9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 10:00am- 4:00pm |
Porth Eirias, Ystafell 2, Y Promenâd, Bae Colwyn Conwy LL29 8HH |
Bernard Dacey |
Gwasanaethau Targed - Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogaeth Teulu ac Ymyrraeth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Henoed ac Atebion Iechyd Cymru, Pobl Fregus a Chyfiawnder Pobl Ifanc Grŵp Targed - GC gyda mwy na 2 flynedd o brofiad |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Nod y modiwl hwn yw galluogi gweithwyr cymdeithasol i ddadansoddi'n feirniadol a myfyrio ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i asesu a goruchwylio myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Bydd y modiwl yn galluogi gweithwyr cymdeithasol cymwysedig i ddadansoddi'n feirniadol a gwerthuso eu gallu i asesu, goruchwylio ac ymarfer eu hasesiad o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.
- Byddwch yn myfyrio'n feirniadol ar egwyddorion a gwerthoedd gwaith cymdeithasol i wella datblygiad myfyrwyr.
- Cewch eich dysgu i asesu a goruchwylio myfyrwyr gwaith cymdeithasol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau proffesiynol gan gyfeirio at ymchwil cyfredol.
- Byddwch yn cael eich arsylwi gan Aseswr Ymarfer cymwysedig ar ddau achlysur wrth oruchwylio myfyriwr gwaith cymdeithasol.
- Byddwch yn dangos eu gallu i integreiddio arfer gwrthwahaniaethol a gwrth-ormesol drwy gydol y cyfnod o oruchwylio ac asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
- Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg oedolion a theori ymarferol yn cael eu dysgu a'u dadansoddi’n feirniadol drwy gydol y modiwl.
- Bydd tystiolaeth o'r Cod Ymarfer Proffesiynol a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a bennwyd gan Gyngor Gofal Cymru yn cael eu hintegreiddio ar draws y gwaith o asesu a goruchwylio myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
- Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd yn drosglwyddadwy i fwy o waith cymdeithasol amrywiol a lleoliadau gofal cymdeithasol.
- Bydd safbwyntiau defnyddwyr a gofalwyr yn cael eu cynnwys gan y myfyriwr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y cwrs, cysylltwch â Mari Rowlands ar 01492574099.