Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwyniad i ddyfeisiau GPS – Teleofal Conwy


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno staff i ddyfeisiau GPS y gellir eu darparu i bobl drwy Teleofal Conwy i helpu gyda chefnogi eu diogelwch a’u hannibyniaeth.  Efallai bydd gan fynychwyr sefyllfaoedd penodol mewn golwg yr hoffant ddod gyda nhw i’r hyfforddiant.

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
20 Ionawr 2021 2pm - 4.00pm   Zoom Sioned Davies OTA Telecare a Lindsay Duncalf OT Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed – Pob aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n dymuno dysgu am ddyfeisiadau GPS.  Byddai’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd neu staff nad ydynt yn teimlo’n hyderus mewn cyfeirio pobl at GPS i gefnogi cleientiaid. 
21 Ionawr 2021 10.00am - 12.00pm Zoom Sioned Davies OTA Telecare a Lindsay Duncalf OT Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed – Pob aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n dymuno dysgu am ddyfeisiadau GPS.  Byddai’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd neu staff nad ydynt yn teimlo’n hyderus mewn cyfeirio pobl at GPS i gefnogi cleientiaid. 

 

Nodau ac amcanion y cwrs:

Yn dilyn y sesiwn, bydd staff yn gallu :-

  • Nodi rhesymeg a manteision defnyddio dyfeisiau GPS.
  • Nodi’r unigolion y byddai'r cyfarpar fwyaf buddiol iddynt ac amgylchiadau lle fyddai'n amhriodol.
  • Cymhwyso datrysiadau GPS i’r risg cysylltiedig.
  • Nodi nodweddion allweddol a manteision GPS.
  • Deall sut i gyfeirio rhywun at Teleofal Conwy am asesiad GPS a chwblhau ffurflen atgyfeirio yn gywir.

 

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content