Manylion y cwrs
Mae’r ffordd rydym ni’n siarad efo pobl am ‘ymddygiad problemus’ yn bwysig! Gallwn ysgogi pobl i newid neu eu gwneud yn waeth.
Mae Cyfweld Ysgogiadol yn arddull cyfathrebu strwythuredig sy’n helpu pobl i weld eu problemau a gwneud rhywbeth amdanynt.
Mae o gymorth penodol pan mae gan bobl deimladau cymysg neu pan maent yn ansicr am wneud newidiadau.
Mae Cyfweld Ysgogiadol yn deillio o faes camddefnyddio sylweddau ond mae rŵan yn cael ei ddefnyddio ym mhob maes gwaith cymdeithasol, o gadw at gymryd meddyginiaeth i ddulliau magu i fynd i’r afael ag iselder.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Grŵp targed |
Dydd Llun 13 Mai a Dydd Mawrth 14 Mai 2024 |
9:15am cofrestru 9:30am - 4:30pm |
Coed Pella |
Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, y Tîm Anableddau, Cefnogaeth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbytai, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Diamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Grŵp Targed – Unigolion sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid. |
Dydd Llun 27 Ionawr a Dydd Mawrth 28 Ionawr 2025 |
9:15am cofrestru 9:30am - 4:30pm |
Coed Pella |
Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, y Tîm Anableddau, Cefnogaeth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbytai, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Diamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Grŵp Targed – Unigolion sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid. |
Mae’r cwrs 2 ddiwrnod yma’n rhoi cyfle i chi ddysgu’r theori ac ymarfer y sgiliau.
Amcanion
- deall ysbryd ac ethos Cyfweld Ysgogiadol
- cofio eich sgiliau gwrando
- dysgu i ennyn ‘siarad newid’ a’i adlewyrchu’n ôl
- dysgu derbyn a gweithio drwy wrthwynebiad
- ystyried amseru a pharodrwydd wrth ddatblygu cynlluniau newid
- Pwysigrwydd datblygu gobaith a hyder yng ngallu eich cleient i newid.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib’ y bydd y digwyddiad yn llawn.