Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant Hanfodion Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)


Summary (optional)
start content

Manylion y Cwrs:

Mae Hanfodion DBT yn gwrs 3 niwrnod gan Gymdeithas Therapïau Seicolegol (APT). Rhaid mynychu’r tri niwrnod.

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
11, 12, 13 Mawrth 2020 9:00am - 4:30pm bob diwrnod Porth Eirias, Y Promenâd, Bae Colwyn, LL29 8HH Amy George (APT) Gwasanaethau Targed – Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed – Ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl sydd â diddordeb mewn cynnig DBT i'w cleientiaid

 

Nodau ac Amcanion y Cwrs:

Mae’r Cwrs Hanfodion DBT yn cynnwys:

  • Dilysrwydd.
  • Diffinio dilysrwydd a pham ei fod yn bwysig.
  • Dilysrwydd a’i gydbwysedd dialectig gyda datrys problemau a strategaethau newid.
  • Model bioseicogymdeithasol Linehan o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, a sut mae dilysrwydd yn plethu mewn.
  • Y goblygiadau o amgylcheddau annilys ar gyfer plentyn, ac ar gyfer yr oedolyn.
  • Beth sy’n cynnwys amgylchedd annilys, gan gynnwys amgylchedd ‘delfrydol’ ... ac un dilys, gan gynnwys sut i’w greu.
  • Ymarferion ar greu ymatebion dilys i ddatganiadau penodol.
  • Ffyrdd gwahanol o ddilysu.
  • Defnyddio dilysu yn eich sefyllfa eich hun.
  • Trosiadau.
  • Sut mae trosiadau’n gweithio a pham y dylem ni eu defnyddio.
  • 6 esiampl o drosiadau.
  • 4 trosiad y gallwch eu defnyddio’n aml, ar gyfer sefyllfaoedd problemus cyffredin.
  • Egwyddorion cyffredinol trosiadau, gan gynnwys trosiadau gweledol.
  • Ymarfer trosiadau.
  • Esiampl achos, i ddangos y defnydd o ddilysu a throsiad.
  • Datrys problemau diarbed.
  • Strategaeth datrys problemau pump cam.
  • Ffurflenni i gleientiaid (a chi) eu defnyddio wrth ddatrys problemau.
  • Ymarfer datrys problemau.
  • Profiad personol o ddatrys problemau: ymarfer.
  • Rheoli hapddigwyddiad.
  • Dangos fideo o atgyfnerthiad arwahanol mewn lleoliad clinigol.
  • Natur rheoli hapddigwyddiad a sut mae’n rhyngweithio gydag ysgogiadau ymwybodol ac anymwybodol y cleient.
  • Dadansoddiad ymddygiadol, yn arbennig fel ymateb i ymddygiad difrifol megis ymddygiad hunanddinistriol.
  • Dadansoddi cadwyn a dadansoddi datrysiad.
  • Enghraifft achos.
  • Ymarfer rheoli emosiwn, gan gynnwys elfennau biolegol megis: cysgu, ymarfer corff, salwch, rythm circadaidd.
  • Ymarfer effeithiolrwydd rhyngbersonol. Mae bod yn effeithiol yn rhyngbersonol yn sgil allweddol, ac mae tystiolaeth ymchwil yn nodedig. Felly mae’n un o’r pedwar sgil sy’n cael ei addysgu yn DBT, gan fynd i’r afael â materion rhyngbersonol cyson.
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar.
  • Diffinio a disgrifio ymwybyddiaeth ofalgar a’i ddibenion gorau.
  • Disgrifiad Kabat-Zinn o ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar a’i swyddogaeth i gydbwyso’r ‘meddwl emosiynol’ gyda’r ‘meddwl rhesymol’ er mwyn cyflawni ‘meddwl doeth’.
  • Tri sgil ‘Beth’ ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Tri sgil ‘Sut’ ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Problemau iechyd meddwl lle gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Ymarfer mewnsyllgar parhaus mewn ymwybyddiaeth ofalgar.
  • Goddef trallod.
  •  ‘Ymddygiad Gwrthdynnu’ a ellir ei ddefnyddio i wrth-ddweud neu niwtralu trallod.
  • Goddef trallod ‘radical’: gwneud dim. Sut i wneud dim: y ffaith bod hyn yn ddull effeithiol i nifer o bobl, a’r ddamcaniaeth y tu ôl i hyn.
  • Cerdded y Llwybr Canol
  • Beth mae hyn yn ei olygu, a pham ei fod yn bwysig, a throsolwg o rhai o’r ymarferion ynghlwm.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content