Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Digwyddiadau Dysgu Datblygu Ymarfer Hwyluso Newid: Gweithio gydag oedolion sy'n camddefnyddio sylweddau

Hwyluso Newid: Gweithio gydag oedolion sy'n camddefnyddio sylweddau


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
6 Gorffennaf 2023 9:30am – 4:30pm Coed Pella Barbara Lyons Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbytai, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Grŵp Targed – Pob ymarferydd sy'n cynnal ymyraethau ar gyfer oedolion
16 Hydref 2023 9:30am – 4:30pm Coed Pella Barbara Lyons Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy'n Derbyn Gofal, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbytai, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Grŵp Targed – Pob ymarferydd sy'n cynnal ymyraethau ar gyfer oedolion


Mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn rhan fawr o lwyth achosion y gwasanaethau cymdeithasol, ond dim pob cleient sy’n cwrdd â’r gofynion nac angen gwasanaethau arbenigol i wneud newidiadau.

Mae’r cwrs yma ar gyfer staff sydd wedi cwblhau cwrs ar gyfweld ysgogiadol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Nodau ac amcanion y cwrs:

Bydd y cwrs undydd yma’n mynd â chi drwy’r camau hanfodol i gefnogi rhywun sydd eisiau lleihau neu stopio camddefnyddio:

  • Pryd sydd angen ymyrraeth feddygol
  • Defnyddio sgiliau cyfweld ysgogiadol i symud y cleient o fyfyrdod i baratoi ac yna i weithredu
  • Cynnal dadansoddiad gweithredol
  • Dulliau lleihau niwed
  • Creu cynllun newid
  • Yr hyn sydd arnoch chi angen ei wybod am leihau cyffuriau adfywiol, canabis ac alcohol  
  • Rheoli chwant
  • Archwilio sefyllfaoedd risg uchel
  • Therapi Ymddygiad a Rhwydwaith Cymdeithasol (neu ymgysylltu â rhwydwaith cefnogi)

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content