Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9.30am - 12.30pm |
Ystafell Hyfforddi 2, Coed Pella |
The Aim Project |
Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
Grŵp Targed – Mae'r cwrs hwn wedi'i dargedu at weithwyr achos sy'n newydd i'r maes gwaith hwn, gweithwyr ieuenctid, staff gofal cymdeithasol a gofalwyr maeth sy'n gofalu am blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol niweidiol. |
Dydd Mawrth 16 Ionawr 2024 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9.30am - 12.30pm |
Teams |
The Aim Project |
Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
Grŵp Targed – Mae'r cwrs hwn wedi'i dargedu at weithwyr achos sy'n newydd i'r maes gwaith hwn, gweithwyr ieuenctid, staff gofal cymdeithasol a gofalwyr maeth sy'n gofalu am blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol niweidiol. |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Gall Ymddygiad Rhywiol Niweidiol sbarduno pryder sylweddol i rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Nod y cwrs un diwrnod hwn yw rhoi eglurhad am y maes gwaith hwn, codi ymwybyddiaeth a grymuso gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy wrth reoli plant a phobl ifanc ag Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi cefndir damcaniaethol i weithwyr proffesiynol am ddatblygiad problemau ymddygiad rhywiol ac arweiniad ar yr hyn sy’n gweithio.Bydd hefyd yn ystyried yr effaith ar oedolion sy’n ceisio rheoli plentyn neu unigolyn ifanc sy’n dangos Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
Amcanion Dysgu
- Mwy o hyder i ymateb i Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a’i reoli
- Mwy o wybodaeth am gymorth a gofal i staff
- Dealltwriaeth o’r cefndir damcaniaethol i ddatblygiad problemau ymddygiad rhywiol
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.