Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Straen Trawmatig Eilaidd


Summary (optional)
Mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn agored i brofiadau a straeon trawmatig gan eraill o hyd, ac maent yn gweithredu ar y rheng flaen ar hyn o bryd mewn argyfwng byd-eang. Mae straen trawmatig eilaidd yn gallu digwydd yn sydyn, tra bo trawma mechnïol yn gynyddol, ond mae’r ddau yn ymateb i ddod i gysylltiad â hyn. Nid oes modd i ni ddiogelu ein hunain yn llwyr gan barhau i fod yn dosturiol, ond gallwn ddysgu am ffyrdd i gefnogi ein hunain yn well, fel unigolion ac fel sefydliad.
start content

Manylion y cwrs

DyddiadAmserLleoliadGrŵp targed
2 Mai 2024 9:30am - 12:30pm Ystafell Hyfforddi 2, Coed Pella, Bae Colwyn Gwasanaethau Targed – Pob Gwasanaeth

Grŵp Targed – Sector cyfan
27 June 2024 9:30am - 12:30pm Ar-lein Gwasanaethau Targed – Pob Gwasanaeth

Grŵp Targed – Sector cyfan
17 Hydref 2024 1:30pm - 4:30pm Ar-lein Gwasanaethau Targed – Pob Gwasanaeth

Grŵp Targed – Sector cyfan
3 Mawrth 2025 9:30am - 12:30pm Ystafell Hyfforddi 2, Coed Pella, Bae Colwyn Gwasanaethau Targed – Pob Gwasanaeth

Grŵp Targed – Sector cyfan

 

Nodau ac amcanion y cwrs

Bydd y cwrs yn trafod:

  • Sut mae trawma yn cyflwyno ei hun a sut gall fod yn heintus.
  • Ymatebion ymdopi’r ymennydd a’r corff i straen llethol.
  • Y gwahaniaethau rhwng trawma mechnïol a thrawma eilaidd, gan adnabod yr arwyddion yn eich hun a’ch cydweithwyr.
  • Deall pwysigrwydd adeiladu eich capasiti eich hun i symud drwy ymatebion i straen.
  • Cyfrifoldebau unigol a sefydliadol.
  • Llunio eich cynllun gofal eich hun.


Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content