Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Cyrsiau Cymorth Cyntaf Ailgymhwysiad cymorth cyntaf yn y gweithle (deuddydd)

Ailgymhwysiad cymorth cyntaf yn y gweithle (deuddydd)


Summary (optional)
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r bobl hynny sydd gyda chymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle ar hyn o bryd ac angen ailgymhwyso. Bydd yn ddilys am gyfnod o 3 blynedd.
start content

Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cwrs yn ddiweddariad o'r sgiliau achub bywyd ac yn cynnwys

  • Deall rôl y cymhorthydd cyntaf, gweithredu'n ddiogel, croes-heintio, cofnodi digwyddiadau, yr offer sydd ar gael a'u defnydd
  • Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n anymwybodol
  • Dadebru cardio-anadlol (CPR)
  • Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n tagu, wedi'i glwyfo neu'n dioddef o sioc
  • Darparu cymorth cyntaf priodol ar gyfer mân anafiadau, mân doriadau, sgryffiniadau, mân losgiadau a sgaldiadau
  • Rhoi cymorth cyntaf i unigolyn sydd wedi anafu esgyrn, cyhyrau a chymalau, gan gynnwys anafiadau posibl i'r asgwrn cefn, anafiadau i'r frest, llosgiadau a sgaldiadau, anafiadau i'r llygad, gwenwyniad sydyn, sioc anaffylactig
  • Cydnabod afiechyd mawr a darparu cymorth cyntaf priodol gan gynnwys trawiad ar y galon, strôc, epilepsi, asthma a diabetes
  • Cynhelir asesiadau Ffurfiannol a Chrynodol yn ystod y cwrs i sicrhau bod yr amcanion dysgu wedi'u cyflawni.

Manylion y cwrs

Hyd: Deuddydd/lleiafswm o 12 awr cyswllt - 9:15am i 4:15pm
Cost: £145
Lleoliad: Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ

Dyddiadau'r cwrs: 2024

Mawrth 5, 6
Ebrill 17, 18
Mai 15, 16
Mehefin 12, 13
Gorffennaf 8, 9
Medi 2, 3
Medi 26, 27
Tachwedd 4, 5
Tachwedd 14, 15
Rhagfyr 2, 3

Dyddiadau'r cwrs: 2025

Ionawr 13, 14
Chwefror 3, 4
Mawrth 6, 7

 

end content