Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Enwi Strydoedd a Rhifo

Enwi Strydoedd ac Enwi a Rhifo Eiddo


Summary (optional)
Mae cyfeiriad eiddo yn fater pwysig iawn. Mae mwy o sefydliadau, y gwasanaethau brys, y gwasnaeth post a’r cyhoedd angen ffordd effeithlon o leoli a chyfeirnodi eiddo. Ni sy'n gyfrifol am enwi pob ffordd yn ogystal ag enwi a rhifo pob eiddo (preswyl ac annomestig). Dim ond ar ôl i ni enwi a rhifo eiddo'n swyddogol y mae posib i gyfeiriad gael ei greu ac i'r Post Brenhinol ddarparu cod post ar ei gyfer.
start content

Sut i wneud cais

Bydd rhaid i unrhyw unigolyn neu ddatblygwr sy’n dymuno cynnig neu newid enw / rhif tŷ neu enw stryd o fewn y Sir ddarllen y Polisi Enwi Strydoedd ac Enwi a Rhifo Eiddo (PDF, 162 Kb) ac, o fewn y canllawiau, gyflwyno eu cynnig yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen briodol, ynghyd â chynllun safle yn nodi lleoliad y stryd yn glir.

Cynghorir unigolion neu ddatblygwyr sy'n cyflwyno cynigion o'r fath yn gryf i ymgynghori ymlaen llaw â'r Uned, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro gydag enwau strydoedd presennol. Yn benodol, cynghorir datblygwyr tai newydd, ar ôl cael caniatâd cynllunio, i geisio ymgynghori'n gynnar gyda'r Uned ynglŷn â threfniadau rhifo tai ac enwau strydoedd.

Enwi / Ailenwi Tŷ

Os oes gan eiddo rif yn barod, gall perchennog yr eiddo roi enw i'w heiddo hefyd heb gysylltu â'r Cyngor cyn belled ag nad yw’n gwrthdaro ag enw eiddo sydd eisoes yn yr ardal honno. Yn yr achos hwn, ni fydd enw’r eiddo yn rhan o gyfeiriad yr eiddo yn swyddogol, ac mae’n rhaid dangos a chyfeirio at rif yr eiddo bob amser mewn unrhyw ohebiaeth.

Bydd angen gofyn am ganiatâd gan y Cyngor os nad oes rhif yn y cyfeiriad swyddogol (er enghraifft os yw'r eiddo wedi cael enw fel rhan o'i gyfeiriad swyddogol).

Yn achos cyfeiriadau lle nad oes rhif wedi ei roi, mae’r enw sydd wedi'i roi'n rhan o'r cyfeiriad swyddogol. Yn yr achos hwn, mae angen i berchnogion eiddo sydd am newid enw’r eiddo gyflwyno eu cais yn ysgrifenedig, gan nodi eu henw, cyfeiriad llawn presennol yr eiddo a datgan yr enw newydd y maent am ei ddewis yn glir.

Datblygiad Newydd (Preswyl) a Datblygiad Newydd (Annomestig)

Os ydych yn datblygu eiddo newydd / datblygiad bychan neu stad fawr, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio ar y safle er mwyn i ni allu prosesu enwau neu rifau eiddo a strydoedd newydd. Byddwn yn gwirio’r enwau rydych chi'n eu hawgrymu rhag ofn bod yr enwau hynny eisoes yn bodoli yn yr ardal leol, ac yn eu hanfon ymlaen at y Post Brenhinol i ymgynghori.

Byddwn hefyd yn anfon copi o'r rhestr enwau a rhifau atoch, ac yn gofyn i chi ei defnyddio i roi gwybod i'ch holl ddarpar brynwyr am gyfeiriad eu heiddo newydd.

Lle bo'n briodol, bydd gofyn i chi ddarparu platiau enwau strydoedd newydd yn unol â'n dyluniad a'n manyleb safonol a bydd cost yn cael ei darparu ar yr adeg briodol.

 

Ffioedd

 Gwnewch yn siŵr bod eich ffurflen gais (a restrir isod) wedi’i chynnwys gyda’r ffi.

 

Deddfwriaeth ac Amodau

Manylion cyswllt:

Ar gyfer pob ymholiad:

  • Ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i ddydd Iau, rhwng 10.00 a 12:30

Gallwch wneud eich cais:

Yr Adain Drwyddedu
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG
end content