Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Monitro cyflogaeth


Summary (optional)
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared â gwahaniaethu ac annog amrywiaeth yn ein gweithlu. Rydym yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod pob gweithiwr yn cael ei drin â pharch ac yn gallu rhoi o'u gorau.
start content

Bydd dewis ar gyfer cyflogaeth a dyrchafiad yn cael ei gynnig ar sail gallu ac addasrwydd yn unig ac rydym wedi datblygu proses rhestr fer a phroses ddethol eglur i gyflawni hyn. Rydym yn gwneud yn siŵr bod pob staff newydd yn cael cyfnod cyflwyno priodol, ac yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol i wneud eu swydd, gan adolygu eu Perfformiad a'u Datblygiad yn rheolaidd.

Mae ein hadroddiadau monitro cyflogaeth yn monitro'r gweithlu ac ymgeiswyr am swyddi. Rydym yn cyhoeddi adroddiadau monitro cyflogaeth blynyddol yn rheolaidd i werthuso tegwch a hygyrchedd o ran arferion cyflogaeth allweddol y Cyngor. Rydym yn gweithio'n barhaus i wella ansawdd gwybodaeth yn y maes hwn. Os yw'n debygol y gallem ddatgelu hunaniaeth unigolion nid ydym yn cynnwys yr wybodaeth hon yn yr adroddiadau a gyhoeddir.

Mae ein hadroddiadau monitro cyflogaeth yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Staff sy'n gweithio i ni ar hyn o bryd
  • Ymgeiswyr am swyddi
  • Ymgeiswyr am ddyrchafiad
  • Ymgeiswyr am hyfforddiant
  • Staff sy'n derbyn hyfforddiant
  • Staff sy'n elwa neu'n dioddef o ganlyniad i arfarniadau perfformiad
  • Staff sy'n destun camau disgyblu
  • Staff sy'n ymwneud â gweithdrefnau cwyno
  • Staff sy'n terfynu eu gwasanaeth gyda ni

Mae'r wybodaeth hon wedi cael ei defnyddio i:

  • Nodi materion cydraddoldeb ar gyfer y sefydliad
  • Nodi camau i wella cydraddoldeb ymhellach neu feithrin perthnasoedd da

Dyma’n hadroddiadau diweddaraf. I holi am unrhyw adroddiadau blaenorol, cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb.

end content