Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Tai Gwag: Siarter cwsmeriaid


Summary (optional)
start content

Ein hymrwymiad i chi


Byddwn yn:

  • Dangos parch tuag atoch
  • Yn deg ac yn gymwynasgar
  • Yn eich trin fel unigolyn drwy ddarparu’r gwasanaeth sydd arnoch ei angen
  • Ymddwyn yn broffesiynol
  • Cymryd cyfrifoldeb pan fyddwn yn delio gyda chi, gan wneud yn siŵr ein bod yn gwneud beth bynnag sydd ei angen
  • Cadw at ein Polisi Cyfleoedd Cyfartal
  • Cysylltu â chi yn eich dewis dull, os rowch wybod i ni beth ydyw
  • Egluro unrhyw beth sydd arnoch chi angen ei wneud
  • Gwneud yn siŵr bod ein swyddfeydd yn groesawgar a dymunol
  • Gwneud yn siŵr bod ein swyddfeydd mor ddiogel â phosibl i’n holl gwsmeriaid a staff
  • Gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth a rowch i ni yn cael ei chasglu, ei chadw, ei phrosesu a’i gwaredu’n unol â Deddf Diogelu Data 2018
  • Darparu gwybodaeth hawdd i’w deall ar ein gwefan, yn bersonol ac yn ein gohebiaeth ysgrifenedig
  • Gwrando ar eich ymholiadau a’ch pryderon a rhoi gwybod i chi pa mor sydyn y gallwn ymdrin â nhw
  • Ymdrin â’ch sylwadau, awgrymiadau a’ch cwynion mewn modd cadarnhaol a chyfrifol.

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Staff sy’n siarad Cymraeg a Saesneg
  • Gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddo Prydain
  • Gwybodaeth mewn Braille neu brint bras ar gais
  • Gwasanaeth cyfieithu ar gais os nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf
  • Ystafell gyfweld breifat ar gyfer apwyntiadau
  • Lle parcio a chyfleusterau i bobl anabl.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn:

  • Ateb eich galwad ble bynnag y bo’n bosibl. Os nad ydym ni’n gallu ateb eich galwad, bydd modd i chi adael neges llais. Os ydych chi’n gadael neges, byddwn yn eich ffonio’n ôl o fewn dau ddiwrnod gwaith
  • Ateb eich ymholiad ar y pwynt cyswllt cyntaf ble bynnag y bo’n bosibl
  • Ymateb i’ch llythyr/e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn egluro pam
  • Cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith i drefnu apwyntiad os ydych chi’n ymweld â’r swyddfa ac nad ydym ni ar gael i’ch gweld chi bryd hynny.

Gofynnwn i chi:

  • Dangos parch tuag atom. Ni fyddwn yn goddef unrhyw aflonyddwch, fygythiad nac ymosodiad. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o gam-drin, pa un ai yw hynny wyneb i wyneb neu dros y ffôn
  • Bod yn garedig tuag at gwsmeriaid eraill
  • Cyrraedd ar amser ar gyfer apwyntiadau
  • Darparu unrhyw wybodaeth berthnasol a ofynnwn amdani
  • Rhoi gwybod i ni os oes gennych chi anghenion mynediad arbennig neu unrhyw anghenion eraill
  • Gofyn i ni i egluro unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr ohono
  • Rhoi gwybod i ni os ydych chi’n hapus gyda’n gwasanaeth
  • Rhoi gwybod i ni os ydych yn anfodlon gyda’n gwasanaeth a sut y gallwn ni ei wella.

Tudalen nesaf:  Perchnogion eiddo gwag

Tudalen flaenorol:  Cysylltwch â'r gwasanaeth

end content