Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Tai Gwag: Perchnogion eiddo gwag


Summary (optional)
start content

Y gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu

  • Rydym ni’n darparu cyngor ar sut y gallwch chi drawsnewid eiddo gwag yn gartref.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni


Byddwn yn:

  • Archwilio’r eiddo efo chi lle bo hynny’n briodol. Byddwn yn trefnu apwyntiad ac yn cyrraedd ar amser
  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd ar grantiau a benthyciadau sydd ar gael i’ch helpu chi ailwampio’r eiddo er mwyn iddo gyrraedd safon benodol
  • Eich cynghori am ba mor hir mae’r eiddo wedi bod yn wag, er enghraifft, fel y gallwch drafod â’ch contractwr a fydd y gwaith ailwneud yn denu TAW is/dim TAW, neu a yw’r eiddo yn gymwys i gael grant neu fenthyciad ai peidio
  • Rhoi gwybodaeth am y dewisiadau rheoli eiddo sydd ar gael i chi os nad ydych chi’n dymuno rheoli’r eiddo pan fydd yn barod i gael ei ddefnyddio
  • Darparu cyngor ar sut i werthu’r eiddo
  • Darparu cyngor ar sut i rhentu’r eiddo
  • Darparu gwybodaeth am gyfrifoldebau bod yn Landlord
  • Cynnig cymorth arall a all fod arnoch ei angen i ddod a’r eiddo yn ôl i ddefnydd.

Beth sydd arnoch chi angen ei wneud

  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw broblem rydych chi’n ei chael wrth geisio trawsnewid eich eiddo gwag yn gartref
  • Rhoi gwybod i ni beth hoffech chi ei wneud gyda’r eiddo unwaith mae’n barod
  • Rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth.

Tudalen nesaf:  Cyfloedd ariannu

Tudalen flaenorol:  Siarter cwsmeriaid

end content