Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cae Derw


Summary (optional)
Cyffordd Llandudno
start content

Dyfarnwyd Baner Werdd i Gae Derw yn 2011 am fod yn barc mawr, trefol o ansawdd uchel yn cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer chwarae a hamddena.

  • Lleoliad - Cae Derw, Cyffordd Llandudno
  • Cyfleusterau - Gardd synhwyrau, cerfluniau, ardal chwarae i blant a phlant bach, caeau chwaraeon ac ardal benodol i gerdded cŵn.

Cae Derw oedd y chweched parc yn Sir Conwy i wneud cais am statws Baner Werdd.  Mae'n fan gwyrdd hynod bwysig o fewn cymuned Cyffordd Llandudno, yn darparu man hamddena hanfodol am ddim ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol.

Datblygwyd y safle rhwng 2008 a 2010 ac roedd yn cynnwys plannu dros 3,5000 o wrychoedd bytholwyrdd a chollddail, coddiau a pherlysiau lluosflwydd. Er gwaethaf gwelliannau diweddar i'r parc mae'r safle hwn yn wir yn ei ddyddiau cynnar, gan ei wneud yn gais cyffrous ond sy'n gofyn llawer o ran cyflawni statws y Faner Werdd. 

end content