Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gerddi Wynn


Summary (optional)
start content

Mae Gerddi Wynn yn barc trefol bach sydd wedi'i leoli o fewn ardal breswyl gan fwyaf. Rhoddwyd y gerddi i'r cyngor lleol gan deulu'r Williams-Wynn yng Ngorffennaf 1915.

  • Lleoliad - Ffordd Abergele, Hen Golwyn        
  • Cyfleusterau - Parcio ar y stryd, Cerfluniau, addurn dŵr, gardd gyffwrdd, gardd loÿnnod byw, llwybrau hygyrch a seddi

Gerddi Wynn oedd y cyntaf o barciau trefol Conwy i wneud cais am statws Baner Werdd ac i ennill y statws yn 2008 ac mae wedi cadw'r statws hwn bob blwyddyn ers hynny.  Mae Gerddi Wynn wedi'u lleoli yn ganolog o fewn tref Hen Golwyn, ac felly mae'r parc yn hygyrch iawn.

Dengys y defnydd parhaus o'r parc gan drigolion lleol bwysigrwydd parc sydd wedi'i gynnal yn dda ac sy'n groesawgar i bobl ac yn aml disgrifir Wynn fel microcosm o fywyd cymunedol. Mae'r cerfluniau, y ffynnon, yr ardd gyffwrdd a'r ardd sy'n denu gloÿnnod byw yn ychwanegu beth sydd eisoes yn barc hynod o hardd a thawel ac maent yn denu amrywiaeth eang o bobl leol sy'n frwdfrydig am eu parc.  

end content