Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Queens Gardens


Summary (optional)
Bae Colwyn.
start content

Mae Queens Gardens yn barc ffurfiol bach. Mae'r Gerddi yn cynnwys cyfuniad o welyau addurnol ffurfiol tua chanol y Gerddi a borderi o goed a llwyni aeddfed.

  • Lleoliad - Conway Road, Bae Colwyn
  • Cyfleusterau - Gwelyau blodau addurnol, addurn dŵr, llwybrau hygyrch a seddi.

Yn wreiddiol roedd Queens Gardens ym meddiant Ymddiriedolwyr Ysgol Rydal ac roeddent yn rhan o dir yr ysgol, rhoddwyd y Gerddi i Gyngor Dosbarth Trefol Bae Colwyn ym 1929 gyda chyfamodau a oedd yn amodi ei fod yn parhau fel parc cyhoeddus. Yn yr 80au a'r 90au roedd yn fan profi ar gyfer y National Rose Society.  Heddiw gwneir defnydd mawr ohono fel gardd gyhoeddus sy'n creu amgylchedd tawel mewn ardal sydd fel arall yn un brysur ym Mae Colwyn. Yn 2010 rhoddwyd Baner Werdd i Queens Gardens. Cynhelir y llwyddiant hwn ac adeiladir arno yn y dyfodol i wneud yn siŵr y cedwir y statws hwn o ragoriaeth.    

end content