Llyfrgell Deithiol
Mae gwasanaeth llyfrgell deithiol rheolaidd ar gael i nifer o gymunedau yng Nghonwy. Gallwch ymuno yn y fan a’r lle, a dewis o ystod eang o eitemau sydd ar gael i'w benthyg, gan gynnwys:
- Llyfrau i oedolion a phlant
- Llyfrau print bras
- Llyfrau llafar Cymraeg a Saesneg
Mae ein llyfrgell deithiol yn gwbl hygyrch ac yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn. Sylwch nad oes ymweliadau ar wyliau cyhoeddus neu adeg y Nadolig.
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch ein ffurflen gysylltu neu ffoniwch (01492) 576139.
Llyfrgell i’r Cartref
Gallwn gynnig gwasanaeth llyfrgell yn uniongyrchol i'ch cartref, mewn rhai amgylchiadau. Mae'r gwasanaeth ar gyfer:
- ydych yn dioddef o broblemau symudedd
- na allwch gario eitemau
- ydych yn dioddef o salwch tymor hir
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch (01492) 576089, neu cwblhewch a Cais ar-lein am wasanaeth llyfrgell i’r cartref