Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Terfyn cyflymder 20mya


Summary (optional)
Daeth y terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd preswyl i rym ar 17 Medi 2023.
start content

Ar 17 Medi 2023, daeth y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd trefol lle mae pobl yn byw, gweithio ac yn chwarae yn Sir Conwy ac ar draws Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya i wneud strydoedd yn fwy diogel trwy leihau tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaeth neu niwed ohonynt. Bydd hyn hefyd yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion (sef teithio llesol).

Gwnaethpwyd y newidiadau ar ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath ar wahân, a leolir fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio’n aml.

Eithriadau

Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod yr holl ffyrdd wedi newid i 20mya, mae rhai wedi aros yn 30mya ac yn cael eu nodi fel eithriadau. Mae pob cyngor yng Nghymru wedi ystyried pa strydoedd yn eu hardal a ddylai aros yn 30mya, yn dilyn meini prawf Llywodraeth Cymru.

Yn Sir Conwy, mae'r ffyrdd hyn (neu rannau ohonynt) yn eithriadau i'r newid i'r terfyn cyflymder, ac wedi aros yn 30yma:

  • A470 Cylchfan Marl Lane, Ffordd y Cymry Brenhinol
  • A470 Cylchfan Narrow Lane, Ffordd y Cymry Brenhinol
  • A470 Cylchfan Black Cat, Ffordd y Cymry Brenhinol
  • A547 Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno
  • A546 Ffordd Glan y Môr, Deganwy
  • A546 New Road Deganwy / Cyffordd Llandudno
  • A546 Ffordd 6G, Cyffordd Llandudno
  • A547 Ffordd Conwy, Conwy
  • Crogfryn Lane, Llanrhos
  • Gloddaeth Lane, Llanrhos
  • B5115 Pentywyn Road, Llanrhos
  • A470 Wormhout Way, Llanrhos
  • B5115 Penrhyn Hill, Ochr y Penrhyn
  • Bryn y Bia Road, Ochr y Penrhyn
  • Ffordd Colwyn, Ochr y Penrhyn
  • A547 Ffordd Rhuddlan
  • A543 Groes, Bylchau
  • A548 Ffordd Towyn, Towyn
  • Cilfan Henllys, Towyn
  • Kings Drive, Bae Colwyn
  • A544 rhwng Llanfairtalhaiarn a Llansannan 

Cwestiynau cyffredin

Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a pham ei bod yn cael ei chyflwyno ledled Cymru?

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

A wnaeth pob ffordd yn Sir Conwy yn newid i 20mya ar 17 Medi?

Ar 17 Medi 2023, newidiodd pob ffordd gyfyngedig i 20mya.  Daeth yr eithriadau i rym ar 20 Medi 2023.

Beth yw ffordd gyfyngedig?

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac â system oleuadau stryd (diffinnir hyn fel tri neu fwy o golofnau goleuadau o fewn 183m neu 200 llath). Roedd terfyn cyflymder o 30mya ar y ffyrdd hyn yn flaenorol.

Roedd yn ddyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar holl ffyrdd cyfyngedig ar 17 Medi 2023.

All Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy anwybyddu’r meini prawf 20mya a nodir gan Lywodraeth Cymru?

Na. Ni all cynghorau lleol ddiystyru meini prawf yn gyfreithiol wrth bennu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol. Aseswn bob terfyn cyflymder yn ddiduedd ar sail meini prawf cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru.

A oes unrhyw ffyrdd wedi aros yn 30mya? A ymgynghorir â phreswylwyr am hyn?

Mae nifer o ffyrdd yn Sir Conwy wedi cael eu heithrio o’r terfyn cyflymder newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi meini prawf eithriadau sy’n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd osod disgwyliadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

I bennu eithriad i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i ni gael achos clir a rhesymegol sy’n dangos bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.

Rydym wedi asesu ffyrdd cyfyngedig ar draws y sir ac wedi canfod ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau. Mae’r rhestr o ffyrdd wedi cael ei rhannu gyda’r holl Gynghorwyr, a gofynnwyd iddynt ganfod ffyrdd eraill yn eu wardiau lle maent yn teimlo bod eithriadau yn gymwys.

Rhaid i’r Cyngor hysbysebu’r eithriadau yn ffurfiol fel rhan o broses ymgynghori cyfreithiol ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.

Cyhoeddwyd hysbysiadau yn y wasg leol a’u gosod ar byst lamp ar y ffyrdd a effeithir ac roedd copïau o’r cynigion mewn copi papur ar gael i’w harchwilio yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella.

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i breswylwyr wneud sylwadau ar y ffyrdd hyn sy’n aros yn 30mya yn hytrach na newid i 20mya.  Ar y cyfan, ni ymgynghorwyd â phreswylwyr ar y newid i 20mya, gan ei fod yn benderfyniad gan Lywodraeth Cymru a wnaed gan y Senedd ym mis Gorffennaf 2022.

A fydd y Cyngor yn adolygu’r eithriadau ac yn newid mwy o ffyrdd yn ôl i 30mya?

Mae’r newid i’r terfyn cyflymder wedi bod yn newid sylweddol i bawb ac fe fydd yn cymryd amser i bobl ddod i arfer â’r newid.  Rydym yn agored i adolygu eithriadau yn dilyn cyfnod ymsefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn adolygu’r canllawiau a’r meini prawf eithriadau a ddarparwyd i gynghorau.  Bydd yn rhaid i ni ystyried hyn, ac felly ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol nes byddwn yn gwybod pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud i’r meini prawf hyn.

Yn y cyfamser, os ydych chi’n teimlo y dylid newid y terfyn cyflymder ar ffordd arbennig, cysylltwch â’n tîm Traffig drwy anfon e-bost at traffic@conwy.gov.uk. Ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth a rhesymau â phosibl, gan gynnwys pam nad yw’r terfyn cyflymder yn unol â’r canllawiau cyfredol gan Lywodraeth Cymru.

Byddwn yn gwrando ar farn pob defnyddiwr ffordd - modurwyr, beicwyr a cherddwyr.  Byddwn yn ystyried barn preswylwyr am y ffordd dan sylw o ran p’un a hoffent newid y terfyn cyflymder ar y ffordd lle maent yn byw yn arbennig.

Mae’n rhaid cael Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i wneud unrhyw newid i derfyn cyflymder.  Mae proses statudol ar gyfer ystyried ac ymgynghori ar wrthwynebiadau cyn gwneud penderfyniad terfynol.

A oes arwyddion ategu i atgoffa pobl eu bod nhw mewn ardal 20mya?

Nag oes.  Mae arwyddion 20mya newydd wedi cael eu gosod ar bob pen i’r ardal cyfyngu cyflymder. Yn yr un modd â chyfyngiadau 30mya blaenorol ar ffyrdd cyfyngedig, nid oes angen arwyddion ategu lle mae goleuadau stryd. Bydd y goleuadau stryd ar hyd y ffordd rhwng yr arwyddion hyn yn atgoffa gyrwyr eu bod nhw mewn ardal 20mya.

Mae gennym ni dwmpathau cyflymder ar hyd fy ffordd, a cheir gwared ar y rhain gan fod y terfyn cyflymder 20mya bellach wedi cael ei gyflwyno?

Mae mesurau gostegu traffig presennol, fel twmpathau cyflymder, wedi’u cyflwyno mewn ardaloedd penodol i wella diogelwch ar y ffyrdd. Nid yw terfyn cyflymder 20mya yn tynnu’r angen am gynlluniau gostegu traffig. Yn yr un modd â holl gynlluniau diogelwch, byddwn yn parhau i adolygu pa mor effeithiol ydynt.

A fyddwch yn ychwanegu twmpathau cyflymder ar ffyrdd preswyl er mwyn helpu i orfodi’r terfyn cyflymder 20mya newydd?

Nid oes gennym gynlluniau i ychwanegu twmpathau cyflymder ar holl ffyrdd 20mya. Byddwn yn ystyried materion diogelwch ar y ffordd fesul achos.

Pwy sy’n talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Conwy?

Bydd yr holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu 20mya ledled Cymru yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.

Pwy fydd yn gorfodi’r terfynau cyflymder 20mya newydd?

Bydd yr Heddlu yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi terfynau cyflymder. Os ydych chi’n pryderu am oryrru yn eich cymuned, gallwch ofyn am orfodi cyflymder drwy wefan GanBwyll.

end content