Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Beth ydw i'n gallu ei ailgylchu am ddim mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?

Beth ydw i'n gallu ei ailgylchu am ddim mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?


Summary (optional)
Gallwch ailgylchu y rhan fwyaf o eitemau am ddim mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
start content
Gellir ailgylchu’r eitemau canlynol am ddim yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre a Gofer (Abergele):
EitemCyfarwyddiadau
Dillad a thecstilau Dim eitemau sydd yn fudr iawn, dylai esgidiau fod mewn pâr ac mewn bag  
Papur a cherdyn Dim deunydd lapio seloffen (er enghraifft, ar lythyrau sgrwtsh)
Plastig cymysg Dim eitemau budr iawn
Gwastraff gardd

Dail, toriadau/clipiadau, brigau a changhennau bach yn unig.
Dim pridd, rwbel, potiau planhigion, bagiau compost neu debyg
Dim gwastraff cartref cyffredinol megis caniau neu blastig

Poteli a jariau gwydr  
Batris  
Tuniau, caniau ac aerosolau Dylai tuniau, caniau ac aerosol fod yn hollol wag cyn eu taflu
Dodrefn  
Eitemau trydanol Dim oergelloedd na rhewgelloedd masnachol. Dim oergelloedd amonia (mae rhai oergelloedd cludadwy a modelau hŷn yn defnyddio amonia)
Metel sgrap  
Cardbord  
Plastig caled   


Gellir gwaredu’r eitemau canlynol yn rhad ac am ddim ond cyfyngir ar nifer:

EitemCyfyngiadau
Sbwriel Cyffredinol Dim mwy na 2 fag bob pythefnos. Mae staff y safle’n cadw’r hawl i ofyn i chi brosesu eich gwastraff cyffredinol yn yr Ardal Didoli Gwastraff Ailgylchu.
Gwastraff anifeiliaid

2 fag bin bob pythefnos

Gwastraff anifeiliaid anwes yn unig a dderbynnir. Ni chaniateir gwastraff amaethyddol na gwastraff fferm  

Tiwbiau fflworolau 5 y flwyddyn
Carped Cyfateb i 6 ystafell y flwyddyn (gyda chyntedd, pen grisiau a grisiau’n cyfrif fel un ystafell)
Cynwysyddion tanwydd Rhaid eu torri o leiaf yn ddau ddarn. 
Cemegau Tŷ neu Ardd Poteli bach yn unig, y dylid eu labelu’n glir a’u selio’n dda. Ni dderbynnir cemegion diwydiannol.
Olew injan neu olew coginio wedi’i ddefnyddio 10 litr y flwyddyn
Paent 15 uned y flwyddyn
Mae ‘uned’ yn 2.5 litr (neu gyfatebol)
Batris car  2 y flwyddyn 
Matresi  Cliciwch yma am wybodaeth ar waredu matresi.

 

PWYSIG: Mae staff y safle’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i:

. unrhyw un sy’n ceisio gwaredu mathau gormodol o wastraff derbyniol (rhad ac am ddim neu fel arall)
. unrhyw un a amheuir sy’n gwaredu gwastraff masnach,
. unrhyw un sy’n torri rheolau’r safle.

 

Gweler hefyd:

end content