Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi gwybod am oedolyn mewn perygl


Summary (optional)
Mae gan bob oedolyn yr hawl i gael eu trin ag urddas, i barchu eu dewisiadau a byw bywyd heb ofn.
start content

Mae rhai pobl yn gorfod dibynnu ar eraill i’w helpu yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Gallai hyn fod oherwydd bod ganddynt anabledd, maent yn wael neu’n fregus. Gall hyn eu gwneud yn fwy agored i gam-driniaeth. Yn aml, cânt eu cam-drin gan bobl sy’n agos atynt, fel teulu, ffrindiau neu ofalwyr cyflogedig.

Gall cam-driniaeth ddigwydd yng nghartref person, mewn cartref nyrsio neu gartref gofal, neu mewn canolfan ddydd neu ysbyty.

Mathau o gam-drin

Mae sawl math gwahanol o gam-drin neu esgeulustod:

Cam-drin corfforol

  • Cael eu taro neu eu slapio
  • cael y feddyginiaeth anghywir ar bwrpas
  • cael eu cloi neu eu clymu yn rhywle, neu eu gorfodi i fwyta.

Cam-drin rhywiol

  • cael eu cyffwrdd neu eu cusanu pan nad ydynt eisiau hyn
  • cael eu gorfodi i gyffwrdd neu gusanu rhywun arall
  • cael eu gorfodi i wylio pornograffi
  • cael eu treisio
  • cael rhywbeth (e.e. anrhegion neu arian) o ganlyniad i gyflawni gweithredoedd rhywiol na allent gytuno neu ni wnaethant gytuno i’w gwneud.

Cam-drin emosiynol 

  • cael eu bygwth
  • ddim yn cael unrhyw ddewisiadau
  • cael eu bwlio
  • cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn fwriadol am amser hir
  • cael eu poenydio.

Cam-drin ariannol

  • arian neu eiddo personol yn cael ei ddwyn
  • cael eu twyllo allan o fudd-daliadau
  • benthyca arian i rywun nad ydynt yn ei dalu yn ôl
  • cael eu bwlio i adael i bobl eraill ddefnyddio cardiau credyd neu sieciau.

Esgeulustod

  • ddim yn cael digon i fwyta neu yfed
  • cael eu gadael mewn dillad budur neu wlyb
  • cael y feddyginiaeth anghywir, neu ddim yn cael meddyginiaeth o gwbl
  • rhywun ddim yn galw meddyg neu nyrs pan fo angen cymorth.

Cam-drin gwahaniaethol

  • anwybyddu credoau crefyddol
  • gwneud sylwadau neu jôcs am anabledd, hil neu rywioldeb unigolyn
  • peidio â darparu bwyd i fodloni anghenion dietegol.

Cam-drin sefydliadol

  • digwyddiadau olynol o ofal neu driniaeth wael mewn gwasanaeth

Cam-drin domestig

  • camdriniaeth a gyflawnir gan rywun sy'n, neu sydd wedi bod yn aelod o'r teulu neu'n bartner agos.

Hunan-esgeulustod

  • pan nad all unigolyn edrych ar ôl eu hunain, gan effeithio ar eu hiechyd, lles neu ddiogelwch.

Caethwasiaeth fodern

  • pan orfodir unigolyn i weithio am ddim
  • gall cyflogwr eu rheoli neu eu perchnogi, neu eu symud o wahanol ardaloedd neu dramor.

Sut fedrwch chi helpu

Yn aml, mae’r bobl sy’n cael eu cam-drin y rhai lleiaf tebygol i ddweud wrth rhywun amdano.

Os ydych yn gweld, neu’n amau bod cam-drin yn digwydd, peidiwch â'i anwybyddu. Cysylltwch â ni i rannu eich pryderon.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Efallai byddwn yn gweithredu’n uniongyrchol ar eich gwybodaeth neu gysylltu â gwasanaethau eraill i roi terfyn ar yr esgeulustod neu sefyllfa gamdriniol.

Byddwn yn darparu gwybodaeth ac yn cynnig cyngor ymarferol i’r person sy’n dioddef, fel y gallant wneud dewis gwybodus am unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt, neu unrhyw gamau yr hoffent eu cymryd. Os nad ydynt yn gallu gwneud dewis gwybodus, byddwn yn cymryd gofal i'w cefnogi a'u diogelu.

Mwy o wybodaeth

end content