Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi gwybod am Blentyn mewn Perygl


Summary (optional)
start content

Os ydych chi’n gweld, neu’n amau, fod plentyn sy’n byw yn sir Conwy yn cael ei gam-drin, peidiwch ag anwybyddu hyn. Cysylltwch â ni i rannu’ch pryderon:

Mathau o gam-drin

Mae sawl math gwahanol o gam-drin neu esgeulustod:

Cam-drin corfforol

  • Cael eu taro neu eu slapio
  • cael y feddyginiaeth anghywir ar bwrpas
  • cael eu cloi neu eu clymu yn rhywle, neu eu gorfodi i fwyta.

Cam-drin rhywiol

  • cael eu cyffwrdd neu eu cusanu pan nad ydynt eisiau hyn
  • cael eu gorfodi i gyffwrdd neu gusanu rhywun arall
  • cael eu gorfodi i wylio pornograffi
  • cael eu treisio
  • cael rhywbeth (e.e. anrhegion neu arian) o ganlyniad i gyflawni gweithredoedd rhywiol na allent gytuno neu ni wnaethant gytuno i’w gwneud.

Cam-drin emosiynol 

  • cael eu bygwth
  • ddim yn cael unrhyw ddewisiadau
  • cael eu bwlio
  • cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn fwriadol am amser hir
  • cael eu poenydio.

Cam-drin ariannol

  • arian neu eiddo personol yn cael ei ddwyn
  • cael eu twyllo allan o fudd-daliadau
  • benthyca arian i rywun nad ydynt yn ei dalu yn ôl
  • cael eu bwlio i adael i bobl eraill ddefnyddio cardiau credyd neu sieciau.

Esgeulustod 

  • ddim yn cael digon i fwyta neu yfed
  • cael eu gadael mewn dillad budur neu wlyb
  • cael y feddyginiaeth anghywir, neu ddim yn cael meddyginiaeth o gwbl
  • rhywun ddim yn galw meddyg neu nyrs pan fo angen cymorth.

Cam-drin gwahaniaethol

  • anwybyddu credoau crefyddol
  • gwneud sylwadau neu jôcs am anabledd, hil neu rywioldeb unigolyn
  • peidio â darparu bwyd i fodloni anghenion dietegol.

Cam-drin sefydliadol

  • digwyddiadau olynol o ofal neu driniaeth wael mewn gwasanaeth

Cam-drin domestig

  • camdriniaeth a gyflawnir gan rywun sy'n, neu sydd wedi bod yn aelod o'r teulu neu'n bartner agos.

Caethwasiaeth fodern

  • pan orfodir unigolyn i weithio am ddim
  • gall cyflogwr eu rheoli neu eu perchnogi, neu eu symud o wahanol ardaloedd neu dramor.

 

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynglŷn ag amddiffyn plant

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth fydd yn digwydd pe byddai rhywun yn sôn wrthym fod angen help ar eich plentyn i gadw’n ddiogel. Ar y tudalennau hyn fe gewch wybodaeth am ein gweithdrefnau amddiffyn plant:

 

Rhoi adborth i ni

Gallwch roi adborth ar ein gwasanaethau drwy fynd i’r dudalen Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau ar ein gwefan, neu gallwch siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth

Gwefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru 

Gwefan Llywodraeth Cymru

end content