Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Rwy'n poeni am rywun Atal radicaleiddio: Cefnogaeth i ffrindiau a theulu

Atal radicaleiddio: Cefnogaeth i ffrindiau a theulu


Summary (optional)
Os ydych chi’n poeni bod rhywun sy’n agos atoch chi yn mynegi safbwyntiau neu gasineb eithafol allai eu harwain i niweidio eu hunain neu eraill, gweithredwch yn gynnar a rhowch wybod am eich pryderon yn gyfrinachol
start content

Beth yw Radicaleiddio?

Radicaleiddio yw’r broses lle mae unigolyn yn dechrau credu a chefnogi naratif a syniadau nes eu bod yn ymrwymo i ideoleg neu grŵp eithafol.  Fe allant gael eu radicaleiddio gan rywun sy’n manteisio arnynt ac yn camfanteisio arnynt. Fe allant radicaleiddio eu hunain drwy wylio deunyddiau eithafol ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Gall unigolion, yn ferched neu’n ddynion, hen neu ifanc, ddod o unrhyw gefndir, cymuned neu grefydd.

Beth yw Prevent?

Mae Prevent yn rhan o strategaeth gwrthderfysgaeth y DU, sy’n cael ei alw yn Contest. Nod Prevent yw:

  • Mynd i’r afael ag achosion o radicaleiddio ac ymateb i her ideolegol terfysgaeth
  • Diogelu a chefnogi’r rhai sydd mewn perygl mwyaf o gael eu radicaleiddio drwy ymyrryd yn gynnar
  • Galluogi’r rheiny sydd wedi ymgysylltu yn barod mewn terfysgaeth, i ymddieithrio ac adsefydlu.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch fideo’r Swyddfa Gartref sydd yn rhoi cyflwyniad am sut mae Prevent yn gweithio.

Adnabod arwyddion o radicaleiddio

Mae Prevent yn dibynnu ar gefnogaeth a gwybodaeth gymunedol i adnabod ac amddiffyn pobl. Cyfeillion a ffrindiau yn aml yw’r rhai cyntaf i adnabod arwyddion pryderus o’r newidiadau. Gall y rhain fod yn newidiadau bach neu fawr, sy’n digwydd yn gyflym neu dros gyfnod hirach o amser.  Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth o’i le, gweithredwch yn gynnar a rhannwch eich pryderon.

 

Bygythiad enbyd

Os ydych chi wedi gweld person yn ymddwyn yn amheus neu os ydych chi wedi gweld cerbyd, pecyn neu fag wedi’i adael a all fod yn fygythiad enbyd, symudwch draw a ffoniwch 999.

end content