Dylid gwneud ceisiadau am drwydded newydd neu adnewyddu trwydded yn electronig drwy ddefnyddio'r ddolen uchod.
Ffioedd
Mae cais / adnewyddu trwydded lletya anifeiliaid yn costio £224 a gellir ei dalu ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen uchod. Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.
Cymhwyster
Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:
- Cadw sefydliad bridio cŵn
- Cadw siop anifeiliaid anwes
- Cadw ci
- Cadw sefydliad anifeiliaid
- Cadw anifeiliaid
Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.
Dogfennau Ategol
Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:
- Cynllun safle a chynllun gosodiad
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
Prosesu ac Amserlenni
Bydd archwiliad yn cael ei wneud gan swyddog awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.
Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.
Ni all unrhyw un redeg sefydliad lletya heb gael trwydded yn gyntaf.
Deddfwriaeth ac Amodau
Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 ac amodau cysylltiedig. Mae angen trwydded lletya anifeiliaid ar gyfer cytiau cŵn, llety cathod, llety cŵn yn y cartref, gofal dydd neu unrhyw gyfuniad o'r uchod.
Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu
Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.
Amodau Cytiau Cŵn
Amodau gofal dydd i gŵn
Amodau Lletya Cathod
Amodau Lletya Cŵn Yn Y Cartref
Cysylltwch â ni
Am unrhyw ymholiad ynglŷn â lletya anifeiliaid anfonwch e-bost i animal.licensing@conwy.gov.uk.