Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bridio Cŵn


Summary (optional)
Mae angen trwydded bridio cŵn nawr lle mae person yn cadw 3 neu fwy o eist sy’n bridio ac yn; bridio 3 torllwyth neu fwy y flwyddyn, yn hysbysebu 3 torllwyth neu fwy y flwyddyn, yn cyflenwi cŵn bach a anwyd o 3 neu fwy o dorllwyth, yn hysbysebu busnes bridio neu werthu cŵn bach.
start content

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais neu adnewyddu trwydded bridio cŵn trwy glicio ar y botwm isod. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y cais hwn, a bydd angen cerdyn debyd neu gredyd er mwyn gwneud hynny.

Fel rhan o’r cais ar-lein hwn, rhaid cwblhau’r Cynllun Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasu Cŵn Bach fel rhan o’r amodau trwydded a deddfwriaeth cysylltiedig.

Rhaid atodi copi o adroddiad milfeddygon ar gyfer pob ci (mae ffotograffau neu sganiau yn dderbyniol, cyn belled fod yr wybodaeth berthnasol yn glir).

 

Ffioedd

Mae cais / adnewyddu trwydded bridio’n costio £234 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd).  Unwaith y rhoddir trwydded, mae'n ddilys am 12 mis a rhaid ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben.   

Cymhwyster

Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag:

  • Cadw sefydliad bridio cŵn
  • Cadw siop anifeiliaid anwes
  • Cadw ci
  • Cadw sefydliad anifeiliaid
  • Cadw anifeiliaid

Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.

Gwybodaeth Ategol

Fel rhan o'r broses o wneud cais, bydd gofyn i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol:

  • Cynllun yr Amgylchedd a Chyfoethogi
  • Cynllun Cymdeithasoli

 

Prosesu ac Amserlenni

Os mai hwn yw eich cais cyntaf am drwydded, yna mae'n rhaid i’ch safle gael ei archwilio gan filfeddyg cymeradwy a swyddog awdurdod lleol. Ar gyfer ceisiadau dilynol, mae'r archwiliad fel arfer yn cael ei wneud gan y swyddog awdurdod lleol.

Byddwn yn delio â cheisiadau o fewn 28 diwrnod.  Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn y graddfeydd amser hyn, cysylltwch â ni.  

Nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol felly mae'n rhaid i'ch cais gael ei brosesu gan yr awdurdod cyn y gellir ei ganiatáu.

Ni all unrhyw un gadw sefydliad bridio heb gael trwydded yn gyntaf.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 ac amodau cysylltiedig.

Bydd milfeddyg a / neu Arolygydd yr Awdurdod Lleol yn ymweld ac yn awyddus i weld bod cŵn yn:

  • byw mewn llety addas
  • cael digon o fwyd, dŵr a gwely
  • cael digon o ymarfer corff
  • cael eu cludo mewn amodau diogel a chyfforddus
  • cael eu diogelu mewn achos o dân neu argyfwng arall
  • cael eu diogelu rhag clefyd sy’n lledaenu

 

Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch sefydliadau bridio cŵn, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk

end content