Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwydded Sw


Summary (optional)
Bydd angen trwydded sw arnoch os byddwch yn arddangos anifeiliaid gwyllt i'r cyhoedd am o leiaf 7 diwrnod y flwyddyn, yn unrhyw le nad ydyw’n syrcas neu’n siop anifeiliaid anwes. 
start content

Mae'n rhaid i chi roi rhybudd o leiaf 2 fis cyn gwneud cais am drwydded sw.

Rhaid i chi wneud cais am Drwydded Sw 2 fis ar ôl i’ch hysbysiad i weithredu sw gael ei dderbyn gennym.

 

 

Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael ei ystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn diwedd y drwydded bresennol, oni bai bod cyfnod amser byrrach yn cael ei ganiatáu gan yr awdurdod lleol.

Ffioedd

Mae cais / adnewyddu trwydded sw yn costio £1622 (gyda chostau adroddiad milfeddygol ychwanegol ar draul yr ymgeisydd) ac mae modd talu ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen uchod. Unwaith y rhoddir trwydded, mae trwyddedau newydd yn ddilys am 4 mlynedd ac mae trwyddedau adnewyddu yn ddilys am 6 blynedd. Rhaid adnewyddu trwyddedau o leiaf 6 mis cyn y dyddiad dod i ben.

Cymhwyster

O leiaf ddau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) i'r awdurdod lleol o'u bwriad i wneud y cais. Mae'n rhaid i'r hysbysiad nodi:

  • lleoliad y sw
  • y mathau o anifeiliaid a brasamcan nifer bob grŵp a gedwir i'w harddangos ar y safle a’r trefniadau ar gyfer eu llety, eu cynnal a chadw a’u lles
  • brasamcan o nifer a chategorïau staff i'w cyflogi yn y sw
  • brasamcan nifer ymwelwyr a cherbydau modur y darperir ar eu cyfer
  • brasamcan nifer a lleoliad y mynediad i'r safle
  • sut y bydd mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu gweithredu yn y sw

O leiaf ddau fis cyn gwneud y cais, rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o'r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o'r hysbysiad hwnnw. Mae'n rhaid i'r hysbysiad nodi lleoliad y sw a datgan bod hysbysiad y cais i'r awdurdod lleol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd trwyddedig arfaethedig. Dylent gysylltu â'r adran gynllunio i drafod a fydd angen caniatâd. Gall yr awdurdod lleol wrthod neu ohirio penderfyniad am gais am drwydded nes y penderfynir ar y mater cynllunio.

Dogfennau Ategol

Dylai'r dogfennau canlynol hefyd gael eu cyflwyno gyda'ch cais:

  • Cynllun Lleoliad/Safle
  • Cynllun yn dangos gosodiad y sw
  • Cynllun llety anifeiliaid
  • Cynllun mynedfeydd ac allanfeydd
  • Rhestr stoc
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr
  • Hysbysiad i'r wasg (ar gyfer hysbysiadau / ceisiadau newydd)
  • Caniatâd cynllunio (ar gyfer hysbysiadau/ceisiadau newydd)

Y Broses Ymgeisio ac Amserlenni

Unwaith y bydd eich cais yn cael ei dderbyn, bydd swyddog yn cysylltu â chi i wneud trefniadau i gynnal arolygiad o’ch safle ar y cyd â milfeddyg cymeradwy.

Wrth ystyried cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan, neu ar ran:

  • yr ymgeisydd
  • prif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol
  • yr awdurdod priodol – sef naill ai'r awdurdod gorfodi neu'r awdurdod perthnasol lle bydd ardal y sw
  • corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithrediad sŵau
  • lle nad yw rhan o'r sw wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod lleol gyda hawl i ganiatáu'r drwydded, awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal berthnasol (heblaw awdurdod cynllunio sirol) neu, os yw'r rhan wedi ei lleoli yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal lle mae wedi ei leoli
  • unrhyw berson sy'n honni y byddai'r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch y bobl sy'n byw yn y gymdogaeth
  • unrhyw un sy'n datgan y byddai'r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy'n byw yn agos ato
  • unrhyw berson arall y gall eu sylwadau ddangos seiliau y mae gan yr awdurdod bŵer neu ddyletswydd i wrthod caniatáu trwydded

Cyn rhoi neu wrthod caniatáu'r drwydded, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried adroddiadau unrhyw arolygwyr yn seiliedig ar eu harolygiad o'r sw, ymgynghori â'r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y maent yn cynnig y dylai fod ynghlwm wrth y drwydded a gwneud trefniadau i gynnal arolygiad. Bydd o leiaf 28 diwrnod o rybudd o’r arolygiad yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol.

Ni fydd yr awdurdod lleol yn caniatáu'r drwydded os ydynt yn teimlo y byddai'r sw'n effeithio'n andwyol ar iechyd neu ddiogelwch y bobl sy'n byw yn agos ato, neu’n effeithio'n ddifrifol ar gadw cyfraith a threfn neu os nad ydynt yn fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n foddhaol.

Gall cais hefyd gael ei wrthod os:

  • nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod safonau llety, staffio neu reolaeth yn addas ar gyfer gofal priodol a lles yr anifeiliaid neu ar gyfer ymddygiad priodol y sw
  • yw’r ymgeisydd, neu os yw'r ymgeisydd yn gwmni wedi’i ymgorffori, y cwmni neu unrhyw un o      gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod lleol, eu cyfarwyddo i atodi un neu ragor o amodau i’r drwydded.

Gall yr awdurdod lleol gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu nifer fach y mathau o anifeiliaid a gedwir yno, dylid gwneud cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.

Nodwch nad yw caniatâd dealledig yn berthnasol i geisiadau am drwydded sw.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi aros am y cyngor i benderfynu ar eich cais cyn y gall sw ddechrau gweithredu.  Er budd y cyhoedd, mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os bydd y ddau fis o hysbysiad o fwriad i wneud cais, sy'n ofynnol, yn cael ei wasanaethu yn gywir (ar gyfer ymgeiswyr newydd yn unig) byddwn yn anelu at ddelio â’ch cais â rhoi neu wrthod trwydded o fewn 160 diwrnod o dderbyn y cais.

Deddfwriaeth ac Amodau

Rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded fodloni gofynion Deddf Trwyddedu Sw 1981 ac amodau cysylltiedig fel y cyfarwyddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Er mwyn cael trwydded mae'n rhaid i’ch sw:

  • helpu addysgu pobl am fioamrywiaeth
  • bod yn addas ar gyfer y mathau o anifeiliaid rydych yn eu cadw
  • bod â safon uchel o ofal anifeiliaid
  • gwneud cymaint â phosibl i atal unrhyw anifeiliaid rhag dianc
  • atal plâu a fermin rhag mynd i mewn i'r sw

Rhaid i chi hefyd wneud o leiaf 1 o'r canlynol:

  • ymchwil i gadwraeth neu hyfforddiant
  • rhannu gwybodaeth cadwraeth
  • bridio anifeiliaid mewn caethiwed
  • helpu ailboblogi neu ailgyflwyno rhywogaethau i'r gwyllt

Cyn y gallwch gael trwydded bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol sut y byddwch yn gwneud hyn.

Rhaid i chi wneud yn siŵr na fyddai'r sw yn effeithio ar:

  • iechyd a diogelwch y bobl leol
  • cyfraith a threfn leol
  • lles yr anifeiliaid

Ceisiadau ac Apeliadau sydd wedi methu

Os yw’r drwydded yn cael ei gwrthod, gellir apelio i'r llys ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

Gall deiliad trwydded apelio i Lys Ynadon yn erbyn:

  • unrhyw amod sy'n gysylltiedig â thrwydded neu unrhyw amrywiad neu ddiddymu amod
  • gwrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
  • cyfarwyddyd i gau sw
  • camau gorfodi yn ymwneud ag unrhyw amod sydd heb ei ddiwallu

Mae'n rhaid cyflwyno’r apêl o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y mae deiliad y drwydded yn cael hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod ynghylch y mater perthnasol.

Rhoi gwybod am broblem

Os oes gennych unrhyw gwynion neu ymholiadau ynghylch sw, anfonwch e-bost at animal.licensing@conwy.gov.uk

end content