Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar Ryddid Gwybodaeth a Deallusrwydd Artiffisial. (dolen allanol, ar gael yn Saesneg yn unig)
Gall adnoddau Deallusrwydd Artiffisial fod yn ddefnyddiol, ond gallant hefyd gyflwyno gwallau neu greu ceisiadau rhy gymhleth sy'n cynyddu'r baich ar gyrff cyhoeddus a chost i'r trethdalwr.
Rydym yn gweld cynnydd mewn ceisiadau a gohebiaeth eilaidd sy'n ymddangos i fod wedi'u drafftio gan Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol. Gall fod angen eglurhad ychwanegol ar y rhain oherwydd gwallau neu gymhlethdod diangen. Mae hyn yn creu oedi i'r unigolion sy'n gofyn am wybodaeth a'n timau.
Pan fyddwch yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu i ddrafftio cais am wybodaeth, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio'r geiriad terfynol a'i fod yn adlewyrchu eich gwir anghenion gwybodaeth.
Cyn i chi gyflwyno cais neu ohebiaeth eilaidd, gwiriwch:
- Eich bod ond yn gofyn am y wybodaeth yr ydych wir yn chwilio amdani. Weithiau mae adnoddau Deallusrwydd Artiffisial yn cynhyrchu geiriad eang neu ormodol sy'n mynd y tu hwnt i'r wybodaeth sydd wir ei hangen neu ei heisiau arnoch.
- Bod y cais yn glir, cryno a phenodol. Mae ceisiadau byr a syml yn haws i ni eu prosesu ac maent fel arfer yn arwain at ymatebion cynt a mwy cywir.
- Nad oes unrhyw wallau ffeithiol amlwg. Gall Deallusrwydd Artiffisial cam-gyfleu deddfwriaeth neu gam-ddatgan yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud.
- Adolygwch destun eich cais yn ofalus a pheidiwch â chymryd bod Deallusrwydd Artiffisial yn gywir. Os yw wedi cyfeirio at rywbeth nad ydych yn ei ddeall, gwiriwch beth ydyw.
- Bod y naws yn briodol.Weithiau gall cynnwys a gynhyrchwyd drwy Ddeallusrwydd Artiffisial swnio'n swta, neu'n amhriodol. Gwiriwch y naws cyn ei anfon.