Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Cwynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Cwynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol


Summary (optional)
start content

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chyrff cyhoeddus eraill, a gofyn amdani. Mae gennych hawl i gwyno ynghylch y ffordd y caiff eich cais ei drin ac / neu’r ymateb rydych chi’n ei gael ynglÅ·n â’ch cais am wybodaeth yn ogystal ag achosion eraill o dorri’r deddfwriaethau uchod.

Am beth allwch chi wneud cwyn

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y mae eich cais wedi’i drin, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad ein hymateb. 

Gallwch gwyno am y modd y cafodd cais ei drin.  Er enghraifft:

  • Ein methiant i ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith neu egluro pam ein bod angen mwy nag 20 diwrnod gwaith.   
  • Ein methiant i ddarparu cyngor a chymorth cywir.   
  • Ein methiant i ddarparu gwybodaeth yn y fformat y gofynnwyd amdano.   
  • Ein methiant i roi eglurhad cywir am unrhyw reswm dros wrthod cais.
  • Ein penderfyniad i atal gwybodaeth naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. 

Gallwch hefyd gwyno am faint o amser a gymerodd i chi gael ymateb. Ein nod yw ymateb yn brydlon ond mewn unrhyw amgylchiadau o fewn 20 diwrnod gwaith. 

Sut i wneud cais am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Gwnewch yn glir bod y cais yn ymwneud â chais am wybodaeth a gofnodwyd a darparwch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl gan gynnwys unrhyw gyfeirnod a roddwyd i chi. Rhowch wybod i ni beth yw eich enw a sut i gysylltu â chi.

Gallwch:

  • ofyn i aelod o staff y Cyngor eich helpu chi

Bydd angen i chi nodi’r rheswm pam ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad a wnaed.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn a rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad ein penderfyniad. Ein nod yw ymateb cyn gynted â phosibl ond mewn unrhyw amgylchiadau o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, mae’n bosibl y byddwch am ei gyfeirio at y Comisiwn Gwybodaeth.

 

end content