Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Data Protection Complaints

Cwynion Diogelu Data


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu, prosesu ac yn cadw ystod eang o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, er mwyn darparu gwasanaethau o fudd i chi.

Rydym yn gyfrifol am reoli’r wybodaeth sydd gennym ac rydym yn cydnabod bod y wybodaeth hon yn bwysig i chi.  Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn deg, yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol. 

Dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a’r Ddeddf Diogelu Data (2018), mae’n rhaid i sefydliadau sy’n casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol ddilyn rheolau arfer da ar gyfer trin data o’r fath. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi hawliau i unigolion y maen nhw’n cadw eu gwybodaeth. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gwyno pe baech chi’n credu bod eich data personol wedi’i brosesu’n amhriodol.

Am beth allwch chi wneud cwyn

Gallwch wneud cwyn i ni os na chawsoch hawl i arfer unrhyw rai o’ch hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i weld y wybodaeth mae sefydliad yn ei chadw amdanoch chi, neu os caiff y wybodaeth amdanoch chi ei defnyddio, ei chadw neu ei datgelu:

  • yn annheg
  • am reswm ar wahân i’r rheswm dros ei chasglu
  • heb ddiogelwch priodol

Neu, os yw’r wybodaeth amdanoch chi:

  • yn annigonol, yn amherthnasol neu’n ormodol
  • yn anghywir neu’n hen
  • wedi cael ei chadw’n hirach na’r angen

Gallwch hefyd gwyno os ydych chi’n teimlo nad ydym ni wedi darparu’r holl wybodaeth berthnasol i chi fel rhan o gais i weld gwybodaeth amdanoch eich hunain.

Sut i wneud cwyn am ddiogelu data

Gwnewch hi’n glir bod y mater yn ymwneud â diogelu data a rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl. Rhowch wybod i ni beth yw eich enw a sut i gysylltu â chi.

Gallwch:

Beth sy’n digwydd nesaf

Caiff eich cwyn ei thrin yn gyfrinachol, a byddwn yn cydnabod ei derbyn cyn pen 30 diwrnod. Byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn a rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad ein penderfyniad. Ein nod yw ymateb yn brydlon ond mewn unrhyw amgylchiadau o fewn un mis. Pan ddaw hi’n amlwg y bydd penderfynu ar y cais ac unrhyw ymateb dilynol yn cymryd yn hirach na’r terfynau amser y cyfeiriwyd atynt (er enghraifft oherwydd cymhlethdod neu natur yr achos penodol), cewch wybod hynny ac fe gewch chi eglurhad dros yr oedi.

Os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, mae’n bosibl y byddwch am ei gyfeirio at y Comisiwn Gwybodaeth.

end content