|
Cyflwyniad
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolydd Data ac wedi cofrestru â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791
Rheolydd Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG
|
|
Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r Rheolydd Data at ddibenion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut rydym yn casglu, yn defnyddio, ac yn gwarchod eich data personol o fewn y Gwasanaeth Cyllid Corfforaethol – Yswiriant.
|
|
Y rheswm (pwrpas) pam mae angen prosesu eich data personol
|
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i weinyddu a phrosesu hawliadau yswiriant sy’n ymwneud â’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ddigwyddiadau, asesu atebolrwydd, rheoli ac amddiffyn hawliadau, asesu a setlo hawliadau, cael cyngor cyfreithiol a phroffesiynol lle bo angen, atal a chanfod twyll, a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddio.
Efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn:
- Derbyn, ymchwilio i, ac asesu hawliadau yswiriant a wneir gan neu yn erbyn y Cyngor.
- Cadarnhau’r amgylchiadau ynghlwm â digwyddiad, damwain, colled neu ddifrod.
- Casglu ac adolygu tystiolaeth, adroddiadau, datganiadau gan dystion a dogfennau ategol.
- Cyfathrebu gyda hawlwyr, yswirwyr, cyfreithwyr, bargyfreithwyr, llysoedd, aseswyr colledion, arbenigwyr meddygol a chyrff ac unigolion perthnasol eraill.
- Asesu atebolrwydd a phennu canlyniadau priodol i hawliadau.
- Rheoli ac amddiffyn hawliadau ac achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r Cyngor.
- Atal, canfod ac ymchwilio i hawliadau twyllodrus.
- Cynnal cofnodion cywir ar gyfer yswiriant a hawliadau.
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio, ac archwilio.
- Monitro patrymau hawliadau a chefnogi gwaith rheoli risg, iechyd a diogelwch, a gwella gwasanaeth.
|
|
Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu
|
Rhai neu bob un o’r canlynol:-
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Dyddiad geni
- Swydd
- Manylion perchnogaeth o gerbyd
- Gwybodaeth ariannol
- Gwybodaeth am hawliadau
- Manylion am y teulu
- Cofnodion cyflogaeth
- Lle mae hawlydd wedi gofyn i unigolion eraill gael eu cynnwys, gwybodaeth bersonol am yr unigolion hynny.
|
|
Y sail gyfreithiol i brosesu eich data personol
|
Rydym yn prosesu data personol yn gysylltiedig â hawliadau yswiriant, digwyddiadau, rheoli risg a gweithredoedd cyfreithiol dan y seiliau cyfreithiol canlynol:
- Erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – Tasg Gyhoeddus, lle mae prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r Cyngor.
- Erthygl 6(1)(c) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – Rhwymedigaeth Gyfreithiol, lle mae prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol neu reoleiddio.
|
|
Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl)
|
Gall data categori arbennig gael ei brosesu lle bo angen er mwyn ymchwilio i, ymdrin ag, neu amddiffyn hawliadau yswiriant.
Gall hyn gynnwys:
- Gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd corfforol neu feddyliol
- Adroddiadau a chofnodion meddygol
- Anableddau neu anafiadau
- Gwybodaeth sy’n datgelu hil neu darddiad ethnig
- Credoau crefyddol neu athronyddol lle bo hynny’n berthnasol i’r hawliad
- Gwybodaeth arall categori arbennig sy’n berthnasol i amgylchiadau hawliad
|
|
Y sail gyfreithiol i brosesu eich data categori arbennig
|
Efallai y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd a manylion am ddamweiniau neu ddigwyddiadau, lle mae angen prosesu ar gyfer:
- Erthygl 9(2)(f) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data: Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
- Erthygl 9(2)(g) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data: Rhesymau er budd sylweddol i’r cyhoedd lle bo’r gyfraith yn caniatáu.
- Erthygl 9(2)(a) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data: Caniatâd penodol, lle cafwyd a lle dibynnwyd ar ganiatâd yn benodol.
|
|
Adran data troseddol
|
Mewn amgylchiadau penodol, efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth sy’n ymwneud â chyhuddiadau troseddol, troseddau, euogfarnau, ymchwiliadau i dwyll neu achosion cyfreithiol lle bo hynny’n angenrheidiol er mwyn ymchwilio i, ymdrin â, neu amddiffyn hawliadau yswiriant.
Mae gwaith prosesu o’r fath yn cael ei wneud yn unol ag Erthygl 10 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data ac Amod 37 – Yswiriant yn Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.
|
|
O ble rydym ni’n cael eich gwybodaeth
|
Gallwn gael gwybodaeth bersonol o’r ffynonellau canlynol:
- Gennych chi’n uniongyrchol
- Adrannau eraill yn y Cyngor
- Adrannau Llywodraeth
- Asiantaethau partner
- Cyrff statudol eraill
- Cwmnïau a broceriaid yswiriant
- Cyfreithwyr a chynrychiolwyr cyfreithiol
- Gweithwyr meddygol a darparwyr gofal iechyd
- Tystion a thrydydd partïon sydd ynghlwm â digwyddiad
- Yr heddlu ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith
|
|
Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl
|
Lle mae prosesu’n seiliedig ar ganiatâd, mae gennych hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ei ôl ar unrhyw adeg heb effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu a wnaed cyn tynnu caniatâd yn ei ôl.
|
|
A yw’n orfodol i mi ddarparu fy ngwybodaeth?
|
Er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid darparu peth gwybodaeth. Lle mae angen gwybodaeth yn ôl y gyfraith neu ei bod yn angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth, gallai peidio â’i darparu ein hatal ni rhag cyflawni ein dyletswyddau statudol neu ddarparu’r gwasanaethau a geisir.
Lle mae darparu’r wybodaeth yn ddewisol, bydd hyn yn cael ei wneud yn eglur ar y pwynt casglu.
|
|
Sut/ble caiff eich data ei storio
|
Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, ei defnyddio na’i datgelu’n ddiawdurdod. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i rai sydd ag angen busnes dilys i gael mynediad ati. Bydd y sawl sy’n prosesu eich gwybodaeth yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac maen nhw dan ddyletswydd cyfrinachedd.
Mae gennym hefyd weithdrefnau mewn lle i ymdrin ag unrhyw digwyddiadau tybiedig ynghlwm â diogelwch data, a byddwn yn rhoi gwybod i chi a’r rheoleiddiwr priodol am unrhyw ddigwyddiad os yw’r gyfraith yn mynnu hynny.
Mae eich data’n cael ei gadw ar weinyddion diogel gyda mynediad wedi’i warchod, unedau diogel dan glo, a lle bo angen ar systemau cwmwl dibynadwy sy’n bodloni ein safonau diogelwch.
|
|
Am ba mor hir gaiff eich data ei gadw
|
Bydd cofnodion hawliadau yswiriant a dogfennau cysylltiedig fel arfer yn cael eu cadw am y flwyddyn ariannol gyfredol a chwe blynedd arall ar ôl cau’r hawliad, oni bai fod angen cyfnod cadw hwy at ddibenion cyfreithiol, rheoleiddio, yswiriant neu dystiolaeth, gan gynnwys canfod ac atal twyll.
|
|
Gyda phwy rydym ni’n rhannu eich gwybodaeth a pham
|
Lle bo angen, gallwn rannu eich gwybodaeth gyda:
- Cwmnïau yswiriant a gwarantwyr
- Broceriaid yswiriant sy’n gweithredu ar ran y Cyngor
- Aseswyr colledion a rhai sy’n ymdrin â hawliadau
- Cyfreithwyr, bargyfreithwyr ac ymgynghorwyr cyfreithiol
- Llysoedd a thribiwnlysoedd
- Yr heddlu ac asiantaethau eraill gorfodi'r gyfraith
- Gweithwyr meddygol a gofal iechyd
- Tystion arbenigol ac ymchwilwyr
- Adrannau’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol eraill
- Sefydliadau gwirio credyd, atal twyll a gwrth-dwyll
- Claims and Underwriting Exchange (CUE) a chronfeydd data cydnabyddedig eraill y diwydiant yswiriant
Ni fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu heb sail gyfreithlon i wneud hynny, ac ond lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur ar gyfer y diben dan sylw.
|
|
Defnyddio technolegau Deallusrwydd Artiffisial (os yw’n berthnasol)
|
Nid yw’r Gwasanaeth Cyllid Corfforaethol ar hyn o bryd yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol, Modelau Iaith Mawr, na Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i brosesu gwybodaeth bersonol.
|
|
Prosesau penderfynu a phroffilio awtomataidd
|
Nid yw’r Gwasanaeth Cyllid Corfforaethol yn defnyddio prosesau penderfynu na phroffilio awtomataidd sy’n arwain at effeithiau cyfreithiol nac effeithiau o arwyddocâd tebyg ar unigolion.
|
|
Trosglwyddiadau rhyngwladol
|
Nid ydym fel mater o drefn yn trosglwyddo data personol y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig. Lle mae angen gwneud trosglwyddiadau o’r fath, bydd mesurau diogelwch priodol yn cael eu defnyddio yn unol â gofynion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.
Lle mae data personol yn cael ei drosglwyddo y tu hwnt i’r DU byddwn yn nodi:
- i ba wlad mae’n mynd;
- y dull trosglwyddo;
- penderfyniad ar ddigonolrwydd, cytundeb trosglwyddo data rhyngwladol, neu fesur diogelwch arall;
- sut mae modd cael rhagor o wybodaeth.
|
|
Eich hawliau data
|
Mae gennych hawl cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu bod eich gwybodaeth wedi cael ei phrosesu’n anghyfreithlon.
Yn ôl y gyfraith, mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:
- hawl i gael gwybod.
- hawl i gael gweld y data personol sydd gennym amdanoch chi.
- hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch.
- hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
- hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
- hawl i wrthod i’ch data personol gael ei ddefnyddio.
- hawl i gludadwyedd data (lle bo hynny’n berthnasol).
Yn yr amgylchiadau prin lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r caniatâd hwnnw yn ei ôl ar unrhyw adeg.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd.
|
|
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol)
|
|
|
Cyswllt gwasanaeth
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth Cyllid Corfforaethol – Yswiriant, cysylltwch â’r Pennaeth Cyllid. |
|
Swyddog Diogelu Data / Uned Llywodraethu Gwybodaeth
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Uned Llywodraethu Gwybodaeth Blwch Post 1 Bae Colwyn LL29 0GG
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 577215
Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol, mae gennych hawl apelio i:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr TÅ· Churchill Ffordd Churchill Caerdydd CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk
|