Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Recriwtio Social Care Gwasanaethau Cefnogi Cyflogaeth

Gwasanaethau Cefnogi Cyflogaeth


Summary (optional)
Dysgwch sut y gallwn eich helpu i siapio eich gyrfa a chyrraedd eich nodau
start content

Swyddog Cefnogi Busnes

Beth yw gwaith Swyddog Cefnogi Busnes?

Mae Swyddogion Cefnogi Busnes yn cydlynu llwythi gwaith, dyrannu tasgau a sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni. Maent yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eu timau rheoli ac yn cefnogi cyfnod sefydlu a hyfforddiant cydweithwyr ac aelodau newydd o staff. Maent yn casglu ac yn adrodd ar ddata adrannol, yn diweddaru systemau gwybodaeth cleientiaid ac yn prosesu archebion gan gynnwys trafodion ariannol.

Pa sgiliau craidd sydd eu hangen ar Swyddogion Cefnogi Busnes?

Gall rôl Swyddog Cefnogi Busnes yn y sector gofal cymdeithasol amrywio, ond y sgiliau craidd yw darparu cefnogaeth weinyddol gadarn. Mae’r swydd yn addas i unigolion trefnus, sydd â llygad craff am fanylder. Efallai y bydd systemau a phrosesau newydd i’w dysgu, ond bydd ein hyfforddiant yn y swydd yn darparu’r cyfan sydd ei angen arnoch i lwyddo.

Pa rolau sydd ar gael yng Nghonwy fel Swyddog Cefnogi Busnes?

Mae ein Swyddogion Cefnogi Busnes yn gweithio ar draws sawl tîm yn ein Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ehangach. Mae timau Plant a Theuluoedd, Maethu, Anableddau, Pobl Hŷn, Pobl Ddiamddiffyn a Chyllid yn gweithio gyda phobl ar draws ein cymunedau.

Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen i ddechrau arni?

I weithio fel Swyddog Cefnogi Busnes, bydd arnoch angen safon dda o addysg (5 TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyderus wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft. Bydd angen i chi hefyd allu gwrando er mwyn gwneud nodiadau. Mae angen i’n Swyddogion Cefnogi Busnes hefyd fwynhau gweithio mewn tîm a meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog.

Cyflog cyfartalog: £21,189 – £22,369

Dyma Helen

Rydw i’n gweithio i’r Gwasanaethau Plant yn y Tîm Data. Rydw i’n cefnogi gweithwyr cymdeithasol drwy brosesu atgyfeiriadau, sy’n cael eu derbyn yn ddyddiol drwy’r blwch e-bost dyletswyddau. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan sefydliadau megis yr Heddlu, ysgolion, meddygon neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol. Rydym hefyd yn helpu i baratoi gwaith papur ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ac yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am leoliad pob plentyn.

Rwyf wedi bod yn gweithio i Gonwy ers ychydig dros flwyddyn a hanner ac yn mwynhau fy swydd yn fawr. Mae pawb yn y tîm yn wych i weithio gyda nhw ac mae pawb wedi fy helpu i ddysgu a deall y swydd. Mae ein rheolwr tîm bob amser yn gefnogol ac yn agos atoch. Rydw i mor falch fy mod i wedi ymuno â Chonwy, gan ei fod yn sefydliad gwych i weithio iddo.




 

end content