Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ydy hyn yn newydd i chi?


Summary (optional)
Gadewch i ni eich helpu i ddod o hyd i’r rôl berffaith
start content

Cerys - Gweithiwr Cefnogi



{"title":"Cerys - Gweithiwr Cefnogi","author_name":"Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy County Borough Council","author_url":"https://www.youtube.com/@CBSConwyCBC","type":"video","height":113,"width":200,"version":"1.0","provider_name":"YouTube","provider_url":"https://www.youtube.com/","thumbnail_height":360,"thumbnail_width":480,"thumbnail_url":"https://i.ytimg.com/vi/S00uVWrPfkQ/hqdefault.jpg","html":"\u003ciframe width=\u0022200\u0022 height=\u0022113\u0022 src=\u0022https://www.youtube.com/embed/S00uVWrPfkQ?feature=oembed\u0022 frameborder=\u00220\u0022 allow=\u0022accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\u0022 referrerpolicy=\u0022strict-origin-when-cross-origin\u0022 allowfullscreen title=\u0022Cerys - Gweithiwr Cefnogi\u0022\u003e\u003c/iframe\u003e"}

Dechrau arni fel Gweithiwr Cefnogi

Beth mae Gweithiwr Cefnogi yn ei wneud?

Mae Gweithiwr Cefnogi yn galluogi pobl i oresgyn eu hofnau a’u heriau, wrth eu helpu i feithrin hyder a hunan-barch, fel bod modd iddynt fyw eu bywydau’n fwy annibynnol. Un o’r pethau gorau am fod yn Weithiwr Cefnogi yw rhannu profiadau newydd, creu atgofion newydd a dathlu llwyddiannau.

Pa sgiliau craidd sydd eu hangen ar Weithwyr Cefnogi?

Mae angen i Weithwyr Cefnogi fod yn dda am sgwrsio a mwynhau gweithio gyda phobl. Mae’n hanfodol bod ganddynt natur gyfeillgar a chefnogol, ac agwedd gadarnhaol ar fywyd. Mae angen i chi fod yn amyneddgar, pwyllog, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac empathi.

Pa rolau sydd ar gael yng Nghonwy fel Gweithiwr Cefnogi?

Mae ein Gweithwyr Cefnogi yn gweithio ar draws sawl tîm yn ein Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ehangach. Yn bennaf, maent yn gweithio yn ein Gwasanaethau Anableddau a Phobl Ddiamddiffyn, ond weithiau bydd Gweithwyr Cefnogi yn gweithio â’r Gwasanaethau Plant a Phobl Hŷn hefyd.

Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen i ddechrau arni?

I weithio fel Gweithiwr Cefnogi, bydd arnoch angen cymhwyster FfCCh Lefel 2, ond nid oes angen i chi feddu ar hynny i ymgeisio am swydd gyda Chonwy, gan ein bod yn hyfforddi llawer o bobl yn y swydd. Bydd angen i chi hefyd gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru, a gallwn eich helpu chi gyda hynny.

Cyflog cyfartalog: £21,189 – £22,369

Dyma Cara

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y sector gofal ers tua blwyddyn, ond dim ond yn ddiweddar yr wyf wedi dechrau gweithio i Gonwy, ar ôl bod yn gweithio mewn cartref gofal cyn hynny. Rydw i bellach yn Weithiwr Cefnogi Ailalluogi yn y gymuned. I unrhyw un sy’n ystyried dechrau gyrfa yn y sector gofal, ewch amdani!

Yr hyn rwy’n ei garu am fy swydd yw pa mor hapus yw pobl fy mod i yno i’w cefnogi nhw. Rydw i’n cael fy nghroesawu i gartrefi pobl, maent yn ddiolchgar fy mod i yno ac maen nhw’n diolch i mi am eu helpu nhw. Mae gwybod fy mod yn helpu pobl i aros gartref yn deimlad braf iawn.

Un fantais o weithio i Gonwy yw’r hyblygrwydd sydd ynghlwm â’r patrwm sifftiau. Mae’r galwadau yn ystod y bore yn tueddu i fod rhwng 8am ac 1.30pm. Yna, mi fydda’ i’n cymryd dwy awr o egwyl, sy’n gweithio’n dda i mi ar gyfer mynd ar neges a mynd â fy nghi am dro. Mae fy sifft gyda’r nos yn 3 awr o hyd, naill ai 4pm-7pm neu 5pm-8pm.

Ers dechrau gweithio i Gonwy, rydw i wedi cael cyfle i ddatblygu drwy gefnogaeth i ymgymryd â llawer o hyfforddiant. Mae fy sgiliau a’m gwybodaeth wedi datblygu’n gyflym ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant diogelu, codi a symud yn gorfforol, cymorth cyntaf, yn ogystal â gwneud fy ngwaith cefnogi ailalluogi.

Mae fy swydd yn gallu bod yn anodd hefyd. Mae ambell ddiwrnod yn profi’n heriol iawn, ond rydw i’n gweithio mewn tîm hynod gefnogol ac mae pawb yn dod ynghyd i helpu ei gilydd. Ond, mae gwybod cymaint o wahaniaeth a wnaf i fywydau pobl yn drech na’r amseroedd heriol.




 

end content