Dyma Catrin Perry – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig
Mae Cat yn dweud wrthym sut mae ei maes gwaith yn cael effaith ar fywydau pobl yng Nghonwy
Catrin - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
{"title":"Catrin - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol","author_name":"Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy County Borough Council","author_url":"https://www.youtube.com/@CBSConwyCBC","type":"video","height":113,"width":200,"version":"1.0","provider_name":"YouTube","provider_url":"https://www.youtube.com/","thumbnail_height":360,"thumbnail_width":480,"thumbnail_url":"https://i.ytimg.com/vi/5NT5_TuHHUE/hqdefault.jpg","html":"\u003ciframe width=\u0022200\u0022 height=\u0022113\u0022 src=\u0022https://www.youtube.com/embed/5NT5_TuHHUE?feature=oembed\u0022 frameborder=\u00220\u0022 allow=\u0022accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\u0022 referrerpolicy=\u0022strict-origin-when-cross-origin\u0022 allowfullscreen title=\u0022Catrin - Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol\u0022\u003e\u003c/iframe\u003e"}
Ydych chi’n credu y gellwch chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol?
Beth mae Gweithiwr Cymdeithasol yn ei wneud?
Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn gweld y darlun llawn a sut y mae’n effeithio ar fywydau. Maent yn ymdrechu i gael cymdeithas gyfartal a diduedd. Maent yn helpu pobl i adnabod eu cryfderau a datblygu eu sgiliau a’u hyder, yn ogystal â’u cefnogi nhw i ddatrys unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu.
Pa sgiliau craidd sydd eu hangen ar Weithwyr Cymdeithasol?
Mae angen i Weithwyr Cymdeithasol fod yn gyfathrebwyr rhagorol. Mae hyn yn cynnwys gallu gwrando ac asesu beth sydd angen ei wneud i helpu pobl. Mae angen iddynt fod yn amyneddgar, pwyllog, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac empathi.
Pa rolau sydd ar gael yng Nghonwy fel Gweithiwr Cymdeithasol?
Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio ar draws sawl tîm yn ein Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ehangach. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a phobl ag anableddau a’u teuluoedd a rhwydweithiau cefnogaeth.
Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen i ddechrau arni?
Er mwyn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol, bydd arnoch angen cymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig a pherthnasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Conwy hefyd yn cynnig Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol, lle’r ydym ni’n cefnogi ein haelodau staff presennol i gyflawni cymwysterau proffesiynol.
Cyflog cyfartalog: £32,900 – £39,400
Dyma Dafydd
Rydw i wedi gweithio i Gonwy ers saith mlynedd. Fy swydd gyntaf oedd Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid, lle’r oeddwn yn cydlynu Cyngor Ieuenctid Conwy, grŵp cyfranogiad ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn cynnal grŵp cyfranogiad ar gyfer unigolion sy’n gadael gofal.
Ar ôl ennill profiad, fe wnes i ymgeisio ar gyfer rôl Ymgynghorydd Personol yn gweithio gydag unigolion sy’n gadael gofal. Fel Ymgynghorydd Personol, roeddwn yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol gyda materion tai, iechyd, rheoli arian a sgiliau byw.
Wrth weithio fel Ymgynghorydd Personol, fe wnes i ymgeisio am Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol gyda Chonwy drwy’r Brifysgol Agored a bûm yn llwyddiannus. Ar ôl cymhwyso, roeddwn yn ffodus o gael swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol Pontio yn y Tîm Pobl Ddiamddiffyn.
Rydw i wir yn mwynhau’r her sydd ynghlwm â bod yn Weithiwr Cymdeithasol, yn arbennig cwrdd â phobl newydd a bod pob diwrnod yn wahanol.
Mae Conwy yn awdurdod lleol blaengar, sy’n meddwl i’r dyfodol. Mae’r aelodau staff a’r rheolwyr yn gefnogol a phob amser yn fy annog i gyrraedd fy mhotensial ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.