Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Craffu Deisebau

Deisebau


Summary (optional)
start content

Dylai unrhyw ddeiseb bapur gynnwys teitl byr a datganiad byr sy'n cwmpasu pwnc y ddeiseb.

Dylai’r ddeiseb nodi’n glir pa gamau mae’r deisebwr yn dymuno i’r Cyngor eu cymryd a dangos y canlynol:

  • Enw’r deisebwr
  • Cyfeiriad cyswllt y prif ddeisebwr y dylid anfon pob cyfathrebiad sy’n ymwneud â’r ddeiseb
  • Enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn sy’n cefnogi’r ddeiseb
  • Dylai deisebau papur hefyd gynnwys llofnod

Dylai deisebau gael eu cyflwyno gan Gynghorydd a gellir eu cyflwyno mewn cyfarfod o’r Cyngor, y Cabinet neu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (yn dibynnu ar y mater a’r cyngor gan Swyddog Monitro’r Cyngor).

Protocol Ymgysylltiad Cyhoeddus Trosolwg a Chraffu E-ddeisebau

end content