Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Craffu Ynglŷn â Chraffu

Ynglŷn â Chraffu


Summary (optional)
Gall Craffu chwarae rôl bwysig yn rheolaeth a gweithrediad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gallai rôl o’r fath fod mewn datblygu polisi, monitro polisi neu adolygu’r gwasanaethau a ddarperir gan Gonwy.
start content

Beth yw Craffu?

Mae Pwyllgorau Craffu yn sicrhau bod mwy o Gynghorwyr yn ymwneud â dylanwadu ar bolisïau a gwelliannau gwasanaeth y Cyngor, ac yn darparu cydbwysedd ar y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet. Mae pedwar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yng Nghonwy: 

  • Cyllid ac Adnoddau
  • Economi a Lle
  • Addysg a Sgiliau
  • Gofal Cymdeithasol ac lechyd

Mae un deg naw o Gynghorwyr yn aelod o bob Pwyllgor Craffu, wedi eu tynnu o bleidiau gwleidyddol o fewn aelodaeth y Cyngor er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor. Mae aelodau cyfetholedig yn eistedd ar ein Pwyllgorau Craffu hefyd, yn cynrychioli rhiant-lywodraethwyr a chynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ac Esgobaethau Catholig.

Beth sy’n digwydd mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu?

Cynhelir cyfarfodydd pwyllgorau craffu bob chwe wythnos fel arfer. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, os nad oes eitem yn cael ei thrafod sy’n cynnwys gwybodaeth eithriedig (cyfrinachol) na ellir ei datgelu i’r cyhoedd. Os oes, bydd yn rhaid i aelodau’r cyhoedd adael y cyfarfod.

Wrth graffu ar fater neu bwnc, bydd Cynghorwyr yn cael gwybodaeth gefndirol, manylion am y gwasanaeth neu’r polisi sy’n cael ei ystyried a’r prif heriau sy’n wynebu’r Awdurdod o safbwynt y gwasanaeth neu’r polisi hwnnw.

Pwrpas cwestiynu mewn cyfarfod Pwyllgor yw dysgu gan y swyddog(ion) sy’n cyflwyno’r adroddiad ac unrhyw dystion, casglu gwybodaeth a dilysu gwybodaeth sydd eisoes wedi ei darparu. Gall cwestiynu fod o gymorth i nodi pa mor effeithiol ac effeithlon yw’n gwasanaethau, pa mor deg ydynt wrth ddarparu mynediad i bob dinesydd, os yw ein gwasanaethau’n perfformio’n dda, beth yw’r risgiau allweddol, a sut gellir eu gwella.

Wedi craffu ar fater neu bwnc bydd y Pwyllgor wedyn yn gwneud ei argymhellion i’r Cabinet.

Sut mae Pwyllgorau Craffu yn gosod eu rhaglen waith?

Mae gosod y rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn gam pwysig o’r broses graffu, sy’n nodi pynciau allweddol a fydd yn cael eu hystyried dros y flwyddyn sydd i ddod. Dyma rai egwyddorion allweddol ar gyfer gosod rhaglenni gwaith:

Dylai pynciau ychwanegu gwerth a chefnogi blaenoriaethau corfforaethol. Mae pynciau ar gyfer y rhaglen waith yn dod o amrywiaeth eang o ffynonellau

Yn ogystal â’r pynciau a nodwyd gan Gynghorwyr, mae gan Bwyllgorau Craffu hefyd eitemau sefydlog y maent yn eu hystyried yn rheolaidd, fel cynlluniau busnes maes gwasanaeth, monitro cyllideb a monitro perfformiad.

Sut all y cyhoedd gymryd rhan yn y broses Craffu?            

Mae’r Cyngor am ei gwneud yn haws i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses craffu. Gallai hynny fod o gymorth i’r Cyngor sianelu gwybodaeth gymunedol i’w brosesau gwella.

Mae nifer o ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y broses Trosolwg a Chraffu. Drwy fynychu cyfarfodydd, siarad mewn cyfarfodydd, rhoi sylwadau ar raglenni a llawer mwy. 

Trosolwg a Chraffu Protocol Ymgysylltu â'r Cyhoedd

end content