Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Rheolau Newydd ar gyfer Pleidleisio Drwy'r Post

Rheolau Newydd ar gyfer Pleidleisio Drwy'r Post


Summary (optional)
start content

Pwysig: Adnewyddu eich Pleidlais Bost

Mae’r rheolau newydd yn mynnu na fedr pleidleisiau post ar gyfer etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd bara’n hwy na thair blynedd nes bod yn rhaid eu hadnewyddu.

Os gwnaethoch gais am bleidlais bost cyn 31 Hydref 2023, bydd arnoch angen gwneud cais o’r newydd cyn 31 Ionawr 2026 er mwyn dal i fedru pleidleisio drwy’r post.

Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar drefniadau pleidleisio drwy’r post yn etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol.

Beth Fydd yn Digwydd Nesaf?

  • Fe gysylltwn â chi drwy e-bost a/neu llythyr i roi cyfarwyddiadau.
  • Y ffordd hawddaf o wneud cais o’r newydd yw mynd ar-lein a dilyn y ddolen hon.
  • Bydd arnoch angen:
    • Eich Rhif Yswiriant Gwladol
    • Llun o’ch llofnod yn eich llawysgrifen mewn inc du ar bapur gwyn (i’w uwchlwytho ar-lein)

Os na fedrwch ddarparu llofnod

  • Os na fedrwch ddarparu llofnod neu os yw’ch llofnod yn wahanol bob tro, efallai y bydd modd ichi wneud cais i hepgor y llofnod.

Angen Cymorth?

Eich Manylion Personol a’r Modd y’u Defnyddir

  • Pan wnewch chi gais am bleidlais bost, gofynnir ichi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod. Eich manylion adnabod personol yw’r rhain.
  • Wrth bleidleisio drwy’r post, byddwch hefyd yn rhoi datganiad sy’n cynnwys yr un manylion. Byddwn wedyn yn gwirio bod eich dyddiad geni a’ch llofnod yr un fath â’r hyn a roesoch wrth wneud cais. Os ydynt yn wahanol, ni fydd eich pleidlais yn cyfrif. Mae hynny’n atal neb arall rhag defnyddio’ch pleidlais chi.
  • Cedwir eich manylion personol ar wahân i’ch papur pleidleisio ar bob adeg ac felly ni fydd neb yn gwybod sut wnaethoch chi bleidleisio.
end content