Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Adolygiad o Ffiniau Cymunedol 2025

Adolygiad o Ffiniau Cymunedol 2025


Summary (optional)
start content

Beth yw adolygiad o ffiniau cymunedau?

Mae yna ddau fath o adolygiad cymunedau y gall prif Gynghorau eu cynnal yn unol â’r Ddeddf:

  • a) Adolygiad o ffiniau cymuned (dan Adran 25 y Ddeddf)

    Dylai adolygiad o ffiniau cymuned sicrhau bod cymunedau’n parhau i adlewyrchu hunaniaethau lleol a hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Er enghraifft, gallai cymunedau ehangu dros amser gyda datblygiadau tai newydd. Gall hyn arwain at ffiniau anghyson, er enghraifft pan gaiff tai newydd eu codi ar draws ffiniau gan arwain at ddryswch o ran pa gymuned y mae stad dai yn perthyn iddi. Mae adolygiad cymunedau’n cynnig cyfle i’r prif Gyngor sefydlu ffiniau cadarn wedi’u diffinio’n glir sydd ynghlwm â nodweddion tir, a chael gwared ag unrhyw ffiniau anghyson sy’n bodoli.

  • b) Adolygiad o’r trefniadau etholiadol (dan Adran 31 y Ddeddf)

    Mae’r broses hon yn golygu archwilio trefniadau etholiadol cymuned benodol, sy’n cynnwys gwerthuso’r wardiau a nifer y Cynghorwyr. Yn ystod adolygiad o’r math hwn, gall y Cyngor ystyried yr agweddau canlynol:
    • Nifer aelodau'r Cyngor sy’n cynrychioli’r gymuned
    • Rhaniad y gymuned yn wardiau (os yw’n berthnasol) er mwyn ethol Cynghorwyr
    • Nifer a ffiniau unrhyw wardiau
    • Nifer y Cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob ward
    • Enw pob ward

Nod yr adolygiad

Y nod yw cynnal adolygiad cymunedol fel rhan o ddyletswydd statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bydd yn cael ei arwain gan Adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Dylai adolygiad o ffiniau cymuned sicrhau bod cymunedau’n parhau i adlewyrchu hunaniaethau lleol a hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (o dan Adran 25).

Os caiff newidiadau i ffiniau cymunedol eu hargymell yn dilyn yr adolygiad o dan Adran 25, yna gellir awgrymu addasiadau ychwanegol sy’n deillio o’r newidiadau hyn i ffiniau fel rhan o Adran 31

Amserlen yr adolygiad

Amserlen Adolygiad o Ffiniau Cymunedol 2025
CamBeth sy'n digwydd?Cyfnod amserDyddiad
Cychwyn Cytuno ar y cylch gorchwyl yng nghyfarfod y Cyngor llawn   22 May 2025
Cam rhagarweiniol: Cyhoeddusrwydd cychwynnol ac ymgynghoriad cyntaf Cyhoeddi’r cylch gorchwyl a chychwyn ar y cyhoeddusrwydd cychwynnol
Y cyfnod ymgynghori 7 wythnos yn cychwyn
7 wythnos 23 Mai tan 11 Gorffennaf 2025
Ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben     11 Gorffennaf 2025
Ystyried sylwadau a pharatoi cynigion drafft Ystyried y sylwadau a ddaeth i law, paratoi argymhellion drafft 2 fis Gorffennaf ac Awst 2025
Cymeradwyo’r cynigion drafft Cyflwyno’r cynigion drafft i’r Cyngor a’u cymeradwyo er ymgynghoriad pellach   9 Hydref 2025
Ail ymgynghoriad Cyhoeddi adroddiad yn unol â’r Ddeddf. Gwahodd sylwadau gan fudd-ddeiliaid ac ymgyngoreion gorfodol 7 wythnos Hydref a Tachwedd 2025
Ail ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben     18 Tachwedd 2025
Cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Cyngor llawn Ystyried sylwadau a’u cynnwys yn yr adroddiad terfynol. Y Cyngor yn penderfynu ar y cynigion terfynol   26 Chwefror 2026
Cyhoeddi’r cynigion terfynol Cyhoeddi’r adroddiad terfynol
1. Gwneud gorchymyn adolygiad Adran 31 (6 wythnos ar ôl cyhoeddi’r adroddiad terfynol)
2. Cyflwyno argymhellion adolygiad Adran 25 i’r Comisiwn Ffiniau
  Mawrth ac Ebrill 2026
Etholiadau llywodraeth leol nesaf     Mai 2027

 

Dogfennau

end content