Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut i gofrestru i bleidleisio


Summary (optional)
start content

Y Gofrestr Etholiadol

Mae’n rhaid i ti fod ar y gofrestr etholiadol er mwyn i ti allu pleidleisio.  Mae hefyd yn dy helpu di i gael statws credyd gan asiantaethau credyd sy’n rhywbeth y bydd efallai ei angen arnat ti wrth fynd yn hŷn os byddi di’n gwneud cais am bethau fel ffôn symudol neu forgais.

Sut i Gofrestru

Dos i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffonio swyddfa etholiadol Conwy ar 01492 576051 neu 01492 576052.  Munud yn unig sydd ei angen a bydd gofyn i ti roi dy enw, dy gyfeiriad a dy ddyddiad geni a dy Rif Yswiriant Gwladol.

Os hoffet ti bleidleisio drwy’r post (yn hytrach na mynd i dy orsaf bleidleisio), dewisa’r opsiwn pleidlais drwy'r post ar y ffurflen gais pan fyddi di’n cofrestru.

Rhif Yswiriant Gwladol

Dylet ti fod wedi cael dy rif Yswiriant Gwladol ychydig fisoedd cyn dy ben-blwydd yn 16. Cadwa hwn yn ddiogel!  Byddi angen dy Rif Yswiriant Gwladol ar adegau eraill yn y dyfodol hefyd, fel pan fyddi di’n cael swydd.

Os oes angen help arnat ti i ddod o hyd i dy Rif Yswiriant Gwladol, galli di fynd i www.gov.uk/rhif-yswiriant-gwladol-coll neu ffonio’r llinell gymorth Rhifau Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3500. Ni fyddan nhw’n rhoi dy rif yswiriant gwladol i ti dros y ffôn ond byddan nhw’n ei anfon atat ti drwy’r post.

Pleidleisio

  • Tua 2 i 3 wythnos cyn diwrnod y bleidlais, byddi di’n cael cerdyn pleidleisio yn y post 
  • Bydd y cerdyn pleidleisio’n dangos y 3 ffordd y galli di bleidleisio; un ai wyneb yn wyneb, drwy’r post, neu drwy ddirprwy
  • Os wyt ti wedi dewis pleidleisio drwy’r post, fe gei di gerdyn pleidleisio i ddweud mai dyma’r ffordd rwyt ti am bleidleisio.  Wedyn, fe gei di dy bapurau pleidleisio ar wahân tua 10 diwrnod cyn diwrnod y bleidlais
  • Papur pleidleisio yw’r darn o bapur rwyt ti’n nodi dy bleidlais arno

Prawf Adnabod i Bleidleisio

O 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod sy’n cynnwys llun er mwyn mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio mewn etholiadau penodol.

 

Bydd yn rhaid cael prawf adnabod ar gyfer:

  • Etholiadau Seneddol y DU (Etholiadau Cyffredinol)
  • Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Deisebau adalw

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod yn etholiadau Senedd Cymru nac etholiadau lleol. 

FI gael rhagor o wybodaeth am brawf adnabod i bleidleisio neu os nad oes gen ti ffurf dderbyniol o brawf adnabod sy’n cynnwys llun, mae modd i ti wneud cais a chael rhagor o wybodaeth yma: Cyflwyno cais am ddull adnabod i bleidleisio.

end content